29.3.10

Tro Wyau'r Pasg Cilgwri....


rhai o'r beiciau yn pasio trwy West Kirby

Cynhalwyd y 'Wirral Egg Run' dydd sul, sef y gorymdaith blynyddol o feiciau modur sy'n cludo wyau Pasg at ysbytai lleol a chodi arian ar eu rhan. Mae'r peth wedi tyfu'n aruthrol dros y flynyddoedd gyda tua 10,000 o feiciau yn cymryd rhan rŵan,  wrth ddechrau yn New Brighton a dilyn taith o amgylch y penrhyn. Wedi profiad o gael fy nal ar ochr anghywir y dref ychydig o flynyddoedd yn ôl, mae'n pwysig cofio i beidio mentro i Morrisons ar fore yr 'Egg Run', gyda'r beiciau yn cymryd rhai dwy awr neu fwy i fynd heibio.

Dwi ddim yn 'feiciwr', ond mi es i lawr efo'r merch i wylio'r golygfa rhyfeddol yn ymlwybro trwy'r dre bore ddoe. Mi welsom ni bob math o feiciau modur, treics modur, hyd yn oed beic a 'side car hearst' (welais i ddim arch ynddi!).
Roedd yr 'engylion o uffern' i weld yn dod ymlaen di-drafferth â'r 'mods' yn eu plith, a'r reidwyr quads a hogiau'r mopeds ar eu niffty ffiffties. Roedd y tywydd yn hynod o braf a phawb mewn hwyliau dda, efo'r eglwys yn ymyl y lôn yn cynnig coffi am ddim i'r gwilwyr!

No comments: