Dwi wedi treulio ychydig o amser yn newid gwedd fy mlog
'Dysgwyr Cilgwri' er mwyn gwneud i'r peth yn fwy deniadol gobeithio. Dylwn i drio postio yn amlach yn fan'na, ond diffyg amser yw'r hen elyn fel arfer. Gobeithio mi fydd y golwg newydd yn fy ysbrydoli i wneud rhagor gyda fo, yn enwedig dros y gwyliau haf - adeg lle mae sawl dysgwr yn ffindio fo'n annodd cadw 'cysylltiad' á'r iaith mae'n debyg.
4 comments:
mae'n edrych yn wych, Neil. Dw i'n dal ceisio darganfod o le ces ti dy olwg newydd
Diolch Ro, dwi'n gwerthfawrogi'r sylw. Er mwyn defnyddio'r 'tempates' newydd mae'n rhaid defnyddio 'Blogger in Draft':
http://draft.blogger.com/home o fan'na gei di ddewis delwedd newydd ac ati, pob lwc!
diolch Neil. Dydy hyn ddim mor hawdd nag o'n i'n meddwl. :-)
Roedd rhaid i mi gael nifer o geisiau cyn lwyddo, felly pob lwc!
Post a Comment