14.5.10

Clwb darllen...

Ges i dipyn o frys yn y diwedd gorffen y llyfr 'Cymer y Seren' mewn pryd i'w adolygu bore dydd llun.
A dweud y gwir wnes i'w orffen tua chwater i unarddeg, llai na hanner awr cyn i mi ddisgwyl galwad ffón gan Wedi 3 yn gofyn am fy adolygiad i!   Wrth i mi ddechrau sgriblo rhywbeth lawr yn reit sydyn,  dyma Eleri o'r rhaglen yn ffonio i ddweud y basen nhw'n dipyn yn hwyr yn fy ffonio oherwydd diffyg technegydd. Er dim ond cwta chwater awr oedd yr oediad, ro'n i'n falch iawn ohono, ac erbyn iddynt ffonio yn ól ro'n i wedi llwyddo i sgwennu ychydig o feddyliau hanner call i lawr.  Llwyddais i'w darllen  (wrth trio peidio swnio fel ro'n i'n eu darllen) yn o lew dwi'n meddwl, gyda Eleri yn fy nghysuro am y golygu celfydd y basai'n digwydd ar ól y recordiad!

Mi aeth y pwt 'golygedig' allan ar Wedi 3 dydd mercher (fel rhan o 'Glwb Llyfrau' y rhaglen), yn ogystal á adolygiad rhywun  yn y stiwdio o'r un llyfr, a llyfr arall (Naw Mis gan Caryl Lewis dwi'n meddwl).  Wrth i fy sylwadau i gael eu darlledu, ymddangoswyd fap o Brydain Fawr á smotyn melyn wedi ei osod ar leoliad Cilgwri,  a fy enw i wrth ei ochr!  Teimlais wrth ei gwylio fel rhyw 'corrrespondant' o bell yn adrodd rhywbeth o bwys i'r newyddion! ac wedyn dychwelodd realaeth y sefyllfa...  sydd ddim cweit yr un peth nag'ydy!?

Dwi wedi dechrau llyfr newydd rwan, ond nid fel rhan o'r clwb darllen. Mae 'Gadael Lennon' gan Bet Jones yn hanes hogan yn ei harddegau sydd wedi byw yn Lerpwl ers rhai wyth mlynedd, ar ól i'w theulu symud yna o Ben Llyn.  Erbyn hyn mae'n rhaid iddynt symud yn ól i Gefn Gwlad Dwyor (am resymau teuleuol), rhywbeth sy'n torri ei chalon hi, a hithau wedi ymgartrefu yn y ddinas fawr ac yn dwli ar y 'Ffab Ffor'.  Mae'n llyfr andros o ddarllenadwy, a'r cysylltiadau efo Lerpwl a'r Beatles yn gwneud i'r hanes yn arbennig o ddiddorol i mi hefyd.  Gobeithio fydda i'n ei gorffen hi dros y penwythnos.

1 comment:

Emma Reese said...

Da iawn ti! Yn anffodus dydy'r ddolen ddim yn gweithio'n iawn yn ddiweddar a fedra i ddim gweld S4C.