27.5.10

Hanes i'n ysbrydoli....

Dwi newydd gwylio pennod ardderchog o 'O Flaen dy Lygaid', oedd yn edrych ar fywyd Stel Farrar, dynes wnaeth symud o Nottingham i Eryri.  Dysgwraig yw/oedd Stel, wnaeth newid iaith ei haelwyd pan oedd ei mab cyntaf yn fach, ac ers llwyddo i ddod yn rhugl yn reit sydyn wedi bod yn gweithio i helpu dysgwyr eraill. Cyfaddefodd ei fod ei gwr ar y pryd yn 'pissed off' efo'r newid annisgwyl yma, ac yntau heb fawr o ddiddordeb mewn dysgu'r iaith. Ennillodd Dysgwr y Flwyddyn yn ól yn 1989 dwi'n meddwl.  Dyma dynamo o ddynes, sy'n torri recordiau nofio Prydeinig  yn ei hoedran hi, yn ogystal a rhedeg a beicio tra magu llond llaw o blant!  Mae'r rhaglen yn dilyn ei bywyd wrth iddi hi neshau at ei hanner cant, a hynny o dan cwmwl oherwydd salwch ei mam yn ól yn Nottingham.  Ond ysbrydoliaeth yw Stel Farrar, a dyma raglen werth ei gwylio o'i herwydd, heb son am y golygfeydd ysblenydd o Eryri.

3 comments:

Nic said...

Swnio'n ddifyr - mae gwefan S4C yn pallu llwytho ar hyn o bryd, ond wna i sieco hyn mas nes ymlaen.

neil wyn said...

dwi heb gael fawr o lwyddiant efo s4clic yn dddiweddar chwaith, et gwaethaf cyflymder digonol ... grr

Nic said...

Gweithio nawr - http://www.s4c.co.uk/clic/c_level2.shtml?series_id=367683247