9.5.10
Tasg Darllen...
Mae gen i dipyn o dalcen galed heddiw, hynny yw gorffen 'Cymer y Seren' (gan Cefin Roberts) un o lyfrau rhestr hir Llyfr y Flwyddyn eleni. Derbyniais y llyfr gan Glwb Llyfrau Wedi 3, a bore fory mi wnawn nhw'n ffonio fi er mwyn i mi gynnig fy mharn, ond y peth ydy dim ond hanner ffordd trwyddi ydwi! Gorffenais 'Y Trydydd Peth' mewn brys yr wythnos diwetha, am eu bod nhw wedi gofyn i mi adolygu hwnnw i ddechrau, ond wedyn ges i e-bost i ddweud ro'n i i fod yn adolygu y llall. Diolch Byth mai Cymer y Seren yn weddol hawdd i'w ddarllen, ac mewn arddull dwi'n mwynhau fel arfer, sef llyfr dirgelwch. Yr unig problem - yr un arferol i mi - yw dadansoddi'r darnau swmpus o ddeialog, a'r rheiny wedi eu sgwennu mewn ymgais i adlewyrchu tafodiaethau. Oes 'na fwy o ddewis yn y Gymraeg ar ran syllafu a chwtogi geiriau, dwi ddim yn 'sicir' ond mae'n teimlo felly weithiau!?
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
2 comments:
Gobeithio dy fod wedi medru gorffen y llyfr, Neil. (Bydd rhaid i mi trio gwylio Wedi 3 i welod - oedd y rhaglen heddiw - neu i ddod?) Darllenais y llyfr hwn ryw deufis yn ol, a mwynhais o.
Er fy mod yn darllen llawer o lyfrau Cymraeg mae'r geirfa (neu rhai eiriau yn annodd yn aml).
Dwi ddim yn gwybod os oes mwy amrywiaeth yng Nghymraeg, fel wyt ti'n awgrymu - ond efallai dy fod yn iawn. Er fy mod yn gymharol gyfarwydd hefo iaith llafur y gogledd, eto dwi'n dod ar draws deialog a tafodiaeth sy'n gwbl newydd ag angyfarwydd
Do, wnes i lwyddo gorffen y llyfr, ond 'mond chwater awr cyn i Wedi 3 fy ffonio!
Sylwais yn y llyfr hon, bod sawl llythyr 'e' wedi ei newid i 'a', a nid yn unig yn y deialog (amsar e.e.).
Mae'r Clwb Darllen yn mynd allan ar ddydd mercher dwi'n credu, wna i drio gwrando ar S4Clic er mwyn clywed yr adolygiadau eraill o'r llyfr, ond wnes i'w fwynhau hefyd.
Post a Comment