Dwi newydd sylweddoli ro'n i'n crafu gwaelod y casgen wrth sgwennu am osod pibell carthffosiaeth!....ond hanes wythnos diwetha ydy hynny erbyn hyn, ac mae 'na rywbeth arall sydd wedi bod yn tynnu fy sylw ers y penwythnos sef fy ffón (tegan) newydd i. Wrth cwrs doedd fawr o'i le efo'r hen ffón (ar wahan i'r bateri a'r sgrín), ond efo'r cytundeb wedi dod i ben ers ychydig o fisoedd, ro'n i'n ffansio rhywbeth newydd efo alweddell qwerty ar gael, hynny yw ffordd symlach o decstio a ballu.
Yn y pendraw (wedi wneud ymchwil diflas o fanwl ar y we!) mi es i am glamp o ffón, sef yr HTC HD2. Ar ran faint, ychydig yn fwy na'r i-phone ydy hi, ond gyda sgrín dros hanner modfedd yn fwy, mae'n wneud y gorau o'i ól traed sylweddol. A dweud y gwir, er gwaethaf ei faint, mae'r faith ei bod o'n andros o dennau'n wneud iddi teimlo'n llai ym mhoced fy jíns na fy ffón olaf, rhywbeth wnaeth fy synnu! Mae faint y sgrín wrth rheswm yn helpu wneud i'r allweddell 'virtual' - sy'n ymddangos ar y sgrín - bod yn weddol hawdd i ddefnyddio, hyd yn oed i rywun efo bysedd trwchus! Wrth cwrs nid ffón ydy ffón y dyddiau 'ma, ond cyfrifiadur bach sy'n gallu gwneud pob math o bethau, ac mae'r HD2 yn wneud llawer o bethau cystal a unrhyw ffón arall, gan cynnwys gweithredu fel sat-nav yn y car.
Yr unig ddrwg yn y caws yw bywyd a bateri, sy'n cymharol gwael os ti isio wneud lot o bori ar y we ac ati. Ta waeth, well i mi orffen er mwyn i mi fynd i chwarae gyda'r tegan newydd....
3 comments:
Neis iawn ! Dyma fy ffôn newydd i :
http://mobilesyrup.com/2009/08/31/rogers-samsung-hype-video-review/
Wel...mae'n newydd o fewn y tri mis diwethaf;) Fel ti , doedd 'na ddim byd o gwbwl o'i le efo fy ffôn arall, ond 'roeddwn i'n ffansio y querty keyboard er mwyn galluogi tecsio yn handiach.
Mwynhâ dy degan newydd Neil !
Diddorol iawn! Mae angen arnaf am ffôn newydd gan fod 'na broblem efo'r hen un, ond wn i ddim pa fath i brynu eto. Fel ti, Neil, dw i wedi bod yn pori dros y we heb lwc eto gan fy mod i wedi gweld iPhone newydd fy ffrind. Fo ydy'r un dw i eisiau, ond maen nhw'n ddrud, yn arbennig ar PAYGo.
Diolch Linda, mae'r qwerty yn wneud lot o wahaniaeth 'tydy? yn enwedig yn y Gymraeg lle does dim tecstio darogan ar gael.
Ro, ges i fy nhemptio gan i-phone rhaid cyfadde, mae nhw'n eiconic erbyn hyn yndyn. Gyda mwy o gwmniau yn eu cynnig nhw y dyddiau 'ma (mae tescos yn eu gwneud nhw bellach), mae'r prisiau'n gostwng rhyw ychydig, ond ar rai o'r cytundebau rhatach mae angen talu pris golew am y ffón ei hun hefyd.
Yr ól rhai o'r adolygiadau mae ffón arall HTC (Y Desire), yw'r un gorau erbyn hyn, ond doedd Virgin ddim yn ei chynnig, felly es i am y bwystfil o ffón wnes i sgwennu amdani!
Post a Comment