Pe taset ti i yrru'r holl ffordd ar draws arfordir gogleddol penrhyn Cilgwri o un gornel i'r llall, hynny yw o New Brighton i Hoylake mwy neu lai, mi fasai milltir olaf dy daith yn dy arwain lawr Stanley Rd, heol hollol syth llawn tai crand sy'n ffinio naill ai'r traeth neu cwrs golff y Royal Liverpool.
A dyma fydd diwedd dy daith, llidiart efo arwydd 'Dim mynediad' yn ei ganol. Wrth rhoi'r ci yng nghefn y car ychydig o ddyddiau yn ól tynnais y llun hwn ar ól gweld y peth (am ryw rheswm) fel rhyw rhybudd i beidio mentro i'r wlad arall 'na dros yr aber! Mae'r person sydd wedi gadael ei gar yn sbio dros y tywod fel pe tasai o'n pendroni am be i wneud nesa er mwyn cyrraedd ochr arall yr aber! (wel yn fy nychmynyg - mae'n debyg dim ond mwynhau'r golygfa ydy o). Welais i ryw arwyddocad yn yr arwydd 'parth di-alcohol' hefyd, fel rhyw gyfeiriad i'r oes a fu, pan oedd Cymru (wel ardaloedd ohoni) yn lle 'sych' pob dydd Sul, adeg dwi'n gallu cofio - jysd!
Gyda Ffynongroyw dim ond pum milltir o fan hyn (red rocks yw enw'r llecyn creigiog yma) does dim syndod caiff ambell i ymwelydd eu clywed yn synnu am ddiffyg bont neu 'causeway' i'n cysylltu á Chymru fach. Dwi'n cofio tua hugain mlynedd yn ól darllen am gynllun arfaethedig i godi llinell rheilffordd dros yr aber. Ond nid cynllun er mwyn hybu economi y Gogledd oedd hwnnw, yn hytrach ffordd o agor i fyny farchnad tai ychwanegol i gymudwyr Glannau Merswy, yn ól proses o 'ymgynghori' aeth yn ei flaen ar y pryd. Mewn gwirionedd 'breuddwyd gwrach' oedd y cynllun, a dwi heb glywed son amdano ers hynny.
Ta waeth mae'n lleoliad hyfryd, sy'n cynnig golygfeydd ysblenydd ar ddiwrnod braf, gan cynnwys ynysoedd Hilbre, bryniau Sir y Fflint, Y Carneddau a'r Gogarth.
4 comments:
Mae hi'n atgoffa i am linell yn yr anthem genedlaethol .."Tra môr yn fur i'r bur hoff bau"....
Trueni dos dim môr ar hyd y ffin.
Pam gallant nhw gau'r ffordd fel 'na? Preifat ydy hi?
Pwynt teg Jon!
Ro, dim ond mynediad i'r traeth sy'n cael ei rhwystro gan y giát mewn gwirionedd, ac mae'r tywod yn gallu bod yn peryglus i gerbydau mae'n debyg efo'r llanw yn achosi'r sianeli i lenwi'n sydyn.
Mae lot o bobl yn cael eu temptio i groesi i Hilbre o fan hyn, ond mae'n peryglus tu hwnt, gyda nifer o bobl yn cael eu hachub pob flwyddyn gan gwilwyr y mór.
Diolch Neil. Dw i'n credu fy mod i wedi clywed am rai achosion, wrth feddwl ond heb sylw bod y clwyd a'r ardal ydy'r un lle.
Post a Comment