9.7.10

Enwau...

Daliais i gip o'r rhaglen 'Coast' heno, oedd yn dilyn arfordir creigiog Cernyw y tro yma.  Wrth i'r cyflwynwraig son am y creigiau cythreulig o beryglus 'The Manacles' (man poblogaidd iawn efo nofwyr tanddwr oherwydd nifer o longdrylliau), soniodd am yr eglwys yn y pentref cyfagos oedd y rheswm dros enw y creigiau.   Mae gan yr eglwys meindwr sy'n weledig o'r mór, ac yn defnyddiol felly i longiau wrth hwylio hebio i'r peryglon creigiog.  Enw Cernyweg y creigiau yw 'Maen Eglos' (Maen Eglwys), a llygriad o hwnnw yw'r fersiwn Saesneg wrth rheswm.  Wrth gwrs mae ystyr yr enw  Saesneg yn gweithio yn y cyd-destun yma, gan fod peryglon y creigiau yn rhwystro cwrs llongwr yn yr un modd a fasai 'gefynnau' (manacles) yn rhwystro taith person.

Gefais fy atgoffa o'r enw Cymraeg Yr Eifl, sydd wedi ei bastardeiddio i 'The Rivals' dros flynyddoedd lawer.  Mae sawl ymwelwr yn meddwl (wrth rheswm) bod y cystadleuaeth rhwng y tair pig ar ran uchder yw gwraidd yr enw, ac yn methu anwybyddus yn aml iawn am yr enw 'gwreiddiol/Cymraeg' a'i ystyr.  Dweud y gwir ro'n i'n anwybyddus o'i ystyr tan i mi gael cip ar Wikipedia a gweld ystyr y gair 'gafl', sef 'fforch' neu 'stride' (yn ól y gwefan hwnnw)

Pethau diddorol (a dadleuol mae'n siwr) yw enwau!

2 comments:

Gareth said...

Mae "fforch" yn ddigon rhesymol fel ystyr Yr Eifl, ond mae’r Geiriadur Mawr yn cynnig "croth" (womb) fel ystyr arall am "gafl". Ond damcaniaeth, ond efallai bydd cysylltiad rhwng cynhanes yr ardal a'r syniad o ffynhonnell bywyd cynnar?

neil wyn said...

diolch am hynny gareth, darllenais son am 'croth' fel ystyr gafl ar dudalen wikipedia am yr eifl, ond do'n i ddim yn gallu ffeindio'r ystyr yn fy ngeiriadur, un ychydig yn llai rhaid cyfadde!