Mi brynnais llyfrau echddoe gyda'r tocyn llyfr hael a gefais gan myfyrwyr y dosbarth nos. Ar ól peth amser yn pori silffoedd Waterstones, penderfynais ar lyfr hanes o'r enw 'Liverpool 800', a gafodd ei gyhoeddi yn 2007 ar benblwydd 800 Lerpwl, a ges i ddigon yn weddill am lyfr bach am pensaerniaeth y ddinas hefyd. Rhaid cyfadde dwi'n ymddiddori mewn hanes lleol, a phob tro dwi'n ffeindio fy hun mewn siop llyfrau, gaiff fy nennu at y casgliadau o lyfrau am y pwnc (chi'n gwybod, y rhai llawn hen luniau o drefi yn eu hanterth, neu o dlodi eu hanffodusion canrif neu fwy yn ól), neu hen fapiau'r Arolwg Ordanans, sy'n dangos patrymau datblygiad ein dinasoedd a threfi.
Ymhlith yr holl tudelannau, ffindias (ar ól ei brynu hefyd!) pennod am hanes yr holl mewnfudwyr sydd wedi lliwio hanes Lerpwl dros y canrifoedd, gan cynnwys wrth rheswm darn am Gymry Lerpwl. Gafodd y Cymry enw weddol da fel gweithwyr yn ól y son, a phobl parchus a sobr fel y cyfriw (wrth gwrs dani'n son am ystrydebau yn fan hyn), yn enwedig o gymharu i'r Gwyddelod truan, a ddiodefodd lot mwy o ragfarn er gwaethaf bod yn 23% o boblogaeth y ddinas ar un adeg! Oherwydd diffyg Saesneg rhan helaeth o'r Cymry 'dwad', roedd tueddiad iddyn nhw gweithio i Gymry eraill, hynny yw Cymry oedd wedi bod yn y ddinas peth amser. Mi ddoth nifer sylweddol o weithwyr amaethyddol i dreulio eu gaeafau yn gweithio yn stordai y dociau, nifer ohonynt yn cael eu rhedeg gan Gymry. Roedd 'na asiantaeth arbennig yn Lerpwl ar ran genethod o Gymry, er mwyn dod o hyd i waith iddynt, gyda nifer yn mynd i weithio mewn tai y Gymry 'sefydlog'.
Wrth gwrs chwaraeodd y capeli rhan mawr yn y proses o helpu Cymry setlo, ac efo tua 90% ohonynt yn mynychu capel neu eglwys yn 1873 (63% trwy cyfrwng y Gymraeg), mae'n hawdd anghofio eu cryfder a dylanwad (ni fynychodd cymaint o Wyddelod yr eglwysi Catholig hyd yn oed!) . Yn ól un adroddiad, ar ran y Cymry newydd cyrraedd cynhalwyd yr eglwysi Cymreig oedfeydd yn y Gymraeg. Roedd Cymry sefydlog y ddinas yn awyddus i gefnogi ymdrechion y rhai newydd dod i wella eu Saesneg, ac roedd defnydd o'r iaith fain yn rhywbeth i anelu ato, ynghyd á chadw'r traddodiadau Cymraeg yn fyw. Digon teg am wn i, a gyda chymaint o Gymry Gymraeg 'ar gael' prin a welwyd hynny'n bygythiad i'w hiaith. Cofiwch, doedd dim rheol iaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol hyd yn oed yn ól yn y 1930au (y tro diwetha cynhalwyd yr wyl ar Lannau Mersi), ac roedd 'na lawer o Saesneg i'w glywed ar y llwyfan adeg hynny.
Ond digon am Gymry Lerpwl, mae hanes y ddinas yn cynnwys mewnfudwyr o bedwar ban byd, a gafodd sawl ohonynt triniaeth llawer gwaeth na hyd yn oed y Gwyddelod. Mae'n amhosib anghofio'r cysylltiadau cywilyddus á cheiswasiaeth a ddaeth a sawl o Affrica a'r Caribi i Lerpwl, ac mae gan Lerpwl un o gymunedau Sieniaidd hynaf Ewrop, a sefydlwyd yng nghanol y pedwaredd canrif ar bymtheg. Erbyn heddiw mae'r rhan mwyaf yn ymfalchio yn y diwylliannau gwahanol sydd wedi creu'r ddinas. Yn 1851 roedd 50% o boblogaeth y dinas wedi eu geni tu allan i Lerpwl, sy'n tystiolaeth o symudiad enfawr o bobl. Gyda'r ffasiwn symudiadau ddaeth tlodi enbyd, gyda disgwyliad oes i ferched yng nghanol Lerpwl cyn lleiad a 19, a 26 i ddynion, ffigyrau dychrynllyd o isel.
Mae'n ddrwg gen i, mae hyn yn troi mewn i draethawd (drwg).. felly wna i orffen!
(Gyda llaw, eiliadau cyn i mi gyrru y post hwn, sylweddolais ro'n i wedi defnyddio 'poeri' yn lle 'pori' yn yr ail brawddeg! Wps... fasai hynny wedi swnio'n ofnadwy!)
3 comments:
Dw i wedi darllen 'i Hela Cnau' gan Marion Eames sy'n trin y pwnc. Roedd yn hynod o ddiddorol. Mae gan Lerpwl hanes lliwgar, da a drwg, tydy?
Cofnod difyr iawn.
Yn ddiweddar mi ddarllenais y nofel Y proffwyd a'i ddwy jesabel, ac roedd y llyfr hwnnw'n rhoi golwg reit difyr i mewn i wahanol haenau dosbarth Cymry Lyerpwl a Phenbedw yn yn y cyfnod.
Rhaid i mi ychwanegu hwn at fy rhestr o bethau i ddarllen Junko! a dwi newydd sylwi un o Gilgwri oedd Marian Eames..
Rhys, diolch am y sylw. Dwi wedi darllen llyfr Gareth Miles hefyd, hanes arbennig o dda, a fel ti'n dweud un sy'n cofnodi bywyd Cymry y Glannau. Mae 'na son am daith draw i ynys Hilbre hefyd os cofiaf yn iawn, lle roedd gofalwr o Gymro go enwog o'r enw Lewis Jones pryd hynny, a figwr blaenllaw yng nghapel Cymraeg West Kirby (sydd hen wedi mynd, er mae'r adeilad dal ar ei draed).
Post a Comment