Dyni wedi dychweled o Ben Lly^n heddiw ar ól wythnos o heulwen di-baid.. wel bron, rhywbeth nad oedden ni'n disgwyl o gwbl. Mae gen i bentwr o luniau i bori trwyddynt, a chyn hir wna i bostio un neu ddau yn fan hyn mae'n siwr.
Wnaethon ni siarad á nifer o bobl yn ystod yr wythnos, gan cynnwys Daloni Metcalfe. Dwi wedi siarad efo hi o'r blaen, gan ei bod hi'n ffermio efo ei gwr yn ardal Tudweiliog, ac yn rhedeg maes carafannau uwchben i draeth hyfryd y pentre. Mae 'na siop bychan mewn hen gwt ar ran ymwelwyr i'r traeth, ac roedd o'n braf cael pigo mewn a chael sgwrs yn y Gymraeg efo pwy bynnag oedd yn gweithio yna ar y pryd. Ymddiheurais am fy Nghymraeg 'rhyfedd' i un o'i merched wrth iddi hi ymdrechu i fy nheall un ddiwrnod, ond ymate bodd 'well unrhyw Gymraeg na dim Cymraeg o gwbl' chwarae teg iddi!
Sgwrs arall 'diddorol' gaethon ni ddoe oedd efo rheolwraig y llety lle oedden ni'n aros. Swniodd fel saesnes (ond dwn i ddim), a datgelodd ei bod hi'n byw yn Llithfaen (y pentre drws nesaf i Bistyll). 'The people are very friendly' meddai hi, 'though it's very Welsh, and the old women all have beards....there are some very odd people there, there's been a lot of interbreeding'. Ro'n i bron yn methu siarad, mor gul oedd agwedd y dynes hon. Rhaid cyfadde nad ydwi'n nabod neb o Lithfaen, a fedra i ddim wneud sylw un ffordd neu'r llall amdanynt, ond dwi'n sicr ni ddylsai dynes mewn swyddogaeth o'r fath bod yn son wrth ei chwsmeriaid yn y ffasiwn yma, beth bynnag ei bod hi'n meddwl mewn preifat. Mae gan y cwmni pecyn gwybodaeth hefyd sy'n cyflwyno ymwelwyr i ddiwilliant ac iaith yr ardal, gan cynnwys geirfa craidd ar eu rhan, ac arwyddion dwyieithog ar y safle.
Dweud y gwir dwedais i ddim, ond wnes i adael cerdyn sylw yn dweud.. 'diolch am bobeth, dyni'n sicr o ddychweled cyn bo hir' (gyda chyfieithiad saesneg), a fy enw llawn sy'n edrych yn fwy Cymreig!! Gobeithio wneith hi meddwl ychydig, cyn datgelu ei chulni amharchus at ymwelwyr i'r ardal y tro nesa!?
4 comments:
"Gobeithio wneith hi meddwl ychydig, cyn datgelu ei chulni amharchus at ymwelwyr i'r ardal y tro nesa!?"
Cytuno'n llwyr!
Mi wnaeth peth tebyg ddigwydd i ffrind fy nheulu.
Tydi nifer o Gymry Cymraeg y gogledd-ddwyrain ddim efo acenion mae pobl yn eu gweld fel rhai 'Cymreig', neu erioed wedi bod yn rhan o'r stereoteip.
Yr oedd ffrind fy nheulu allan yn cerdded ei chi ar draeth ochrau Pen Llŷn, pan ddaeth gwraig heibio a chychwyn mynd ymlaen am y Cymry, yn deud pob fath o bethe fel "the Welsh spoil this area" a phethau eraill sydd wedi eu nodi'n barod! Yr oedd ei chi yn bod yn niwsans, felly yn y diwedd yr oedd rhai i'r ffrind galw ar ei chi 'Seren' a deud wrthi i fihafio, yn y Gymraeg wrth gwrs. Ymateb y wraig oedd, mewn sioc, "Oh you're... Welsh..." Cerddodd yn ei blaen digon cyflym ar ôl hynny.
Es i Lithfaen y llynedd, ond welais i mo'r hen wragedd efo barfau! Ond rhaid i mi ddweud bod gan fy ngŵr ymateb i bobl sy'n dweud pethau twp fel 'na. 'O, You're English, are you'? efo acen gref y Gymraeg.
Mae'n drist sylweddoli bod agweddau 'trefedigaethol' yn fyw ac yn iach ymhlith rhai. Cofiaf aelod fy nheulu'n dweud rhywbeth debyg (heb feddwl) nifer o flynyddoedd yn ól. Ro'n i'n mor ddig wnes i'w herio'n syth, a gobeithio wneud iddynt weld safbwynt gwahanol.
Mae 'na agwedd ymhlith rhai ymwelwyr a mewnfudwyr (lleifrif gobeithio) i ardaloedd prydferth fel Lly^n ac Eryri i drin y poblogaeth a diwylliant lleol fel niwsans, rhywbeth i amharu ar eu profiad, nid i'w gyfoethogi, sy'n drist mewn ffordd tydi?!
Post a Comment