13.9.10

Porth Iago..

yr olygfa o'r maes parcio
Dwi ddim yn cofio ymweled á Phorth Iago cyn yr wythnos diwethaf.  Roedd yr enw er hynny yn un cyfarwydd i mi - o arwyddion ffyrdd o amgylch Llangwnadl (rhywle arhosom ni sawl gwaith) mae'n debyg.  Dim ond ychydig o filtiroedd yw'r traeth o'r darn distaw 'ma o Ly^n, ac wrth inni yrru tuag ato, cofias seiclo lawr y lón cefn  hyfryd 'na, sy'n eich arwain i gyfeiriad Porthor ('whistling sands') a Phorth Iago, ond heb ymweled á'r traethau am ryw rheswm.   Y tro hyn roedden ni'n benderfynol o gyrraedd y traeth, ac ar ól mentro lawr y lón tuag at maes parcio'r Ymddiriodolaeth Genedlaethol ym Mhorthor - a chael ein siomi gan yr arwydd 'Dim Cwn'-  troi yn ein holau wnaethon ni, a dilyn yr arwydd i Borth Iago, cwta milltir neu ddwy i'r gogledd.   Mae 'na lón cerrig yn eich groesawu i gyfeiriad y trai llai 'na, ac yn eich arwain ceir dros y caeau a thrwy fuarth fferm go 'ymarferol'.  Gewch chi gyfle gollwng eich ddwy punt i 'flwch gonestrwydd' er mwyn parcio yno trwy'r dydd (digon teg), cyn mentro dros gae arall, heibio i wersyllfa'r fferm ac mewn i 'gae parcio' uwchben i borth bach hardd 'Iago'.


5 o'r gloch a bron pawb wedi gadael

Does dim llwybyr hawdd lawr i'r traeth ei hun, dim ond nifer o lwybrau yn igam ogam eu ffyrdd lawr yr allt serth tu cefn iddo fo, rhybeth sy'n rhwystro rhai ymwelwyr mae'n siwr, ond nodwedd sydd hefyd yn helpu cadw ei gymeriad naturiol arbennig.    Treuliom ni wyl y banc hyfryd yna, ond nad oedd y traeth yn orlawn o bell ffordd. Fel Porthor 'drws nesa', mae'n ymddangos bod gan Borth Iago tywod 'unigryw' sy'n neud swn wrth i rywun llithro drosto - wel weithiau! - rhywbeth i neud efo siap y ddarnau o dywod yw hyn o'r hyn a ddarllenais yn rywle dwi'n credu.   Deuddydd yn ddiweddar, ar ddydd mercher olaf mis awst, ddiwrnod arall o heulwen dibaid, dim ond cwpl o ddwsin pobl oedd yna, ac erbyn pump o'r gloch dim ond ni a thri arall!
Gaethon ni nifer o ymweliadau i'r dwr, ac er i'r dwr teimlo'n andros o oer i ddechrau, ar ól treulio deg munud ynddo, teimlodd yn ddigon gynnes i aros mewn am hanner awr a mwy.  Dyma traeth mi fydden ni'n dychweled iddo tro ar ól tro mae'n siwr.

2 comments:

Emma Reese said...

Braf clywed am dy wyliau ar y traeth arbennig. Baswn i'n licio clywed sŵn y tywod!

Rhys Wynne said...

Am draeth hyfryd. Gwglais yr enw i weld ble oedd o a dod ar draws y dydalen yma:

http://www.geograph.org.uk/photo/184968

Mae'n dangos ei fod ger Penrhyn Mawr, sef ble cafodd Harri Parri ei eni - mond gywbod hyn ydw i achos i mi isdetlo ail raglen cyfres newydd Pen Llŷn Harri Parri: http://www.s4c.co.uk/ffeithiol/c_harriparri.shtml

Bues i'n treulio sawl haf yn Chwilog pan yn blentyn ond heb fod i Ben Llŷn lawer ers hynny - er ro'n i digwydd bod ym Mhlas Glyn y Weddw yn Llanbedrog dydd Sadwrn ar gyfer priodas fy nghefnder, a briododd merch o'r Ffôr. Dyna le bendigedig.