Mi ddarganfodais lyfr arall o ddiddordeb i siaradwyr Cymraeg tu hwnt i Gymry'r wythnos yma, sef nofel sy'n adrodd hanes Cymro a fagwyd yn Lerpwl yn ystod ail hanner y pedwaredd canrif ar bymtheg. Dwedais 'ddarganfodais', ond dylwn i wedi dweud 'darllenais amdano' mewn llyfryddiaeth llyfr sy'n dilyn hanes Cymry'r Glannau. Mae 'Owen Rees, A Story of Welsh Life and Thought' gan Eleazar Roberts yn swnio fel teitl braidd yn anhysbys, ond wrth i mi 'Googlo' fo ges i syndod i gael hyd i nid yn unig copi newydd ar gael trwy Amazon, ond copi digidol yn fan hyn.
Ar ól darllen ychydig ohono ar y we, penderfynais mae digon o ddidordeb gen i i fuddsoddi mewn copi 'caled' fel petai, rhywbeth mi wnes i y bore 'ma tra archebu llyfr arall. Mae'r nofel yn swnio'n diddorol o safbwynt y disgrifiadau o agwedd ffrind gorau Owen Rees (sy'n ei alw fo Taffy wrth rheswm!) tuag at y Gymraeg, a phresenoldeb cryf y Cymry yn ei ddinas.
Yr unig peth od yw clawr y llyfr (yn ol y llun ar wefan Amazon ta beth). Mae'r llun yn dangos beic yn bwyso ar wal anhysbys, sy'n edrych fel unrywle ond Lerpwl canrif a hanner yn ol! Ond ar glawr y fersiwn clawr caled sydd ar gael hefyd, mae 'na lun o dywyni yr anialwch!? Dwi'n credu bod 'stoc pictiwrs' ydy'r rhain, achos welais i'r un llyfr o feic ar lyfr arall yn y cyfres o ail-argraffiadu maen nhw'n perthyn iddo.
Ta waeth dwi'n edrych ymlaen at ddarllen mwy o'r hanes pe bynnag llun sydd ar y clawr!
2 comments:
Diolch Neil, byddai'r llyfr o ddiddordeb i ddysgwyr tu hwnt i Gymru fel ti'n dweud. Gwych!
Antwn
croeso antwn. mae'n braf cael siawns ei ddarllen am ddim ar y we hefyd:)
Post a Comment