Dwi'n dal i ddarllen am fywyd 'Owen Rees', ac yn dod i ddeall ychydig am ról y capeli ym mywydau Cymry Lerpwl tua canrif a hanner yn ól. Er cyfrol braidd yn drwchus yw 'Owen Rees - A Story of Welsh Life and Thought', mae'n cymharol hawdd i'w ddarllen, ac dwi'n mwynhau'r darlun bod yr awdur (Eleazer Roberts) yn ei beintio o fywyd teuleuol y cyfnod.
Mae Mam Owen yn ddynes garedig a ffyddiog, sy'n glwm a'i chapel, un o nifer yn 'nref' Lerpwl oedd yn perthyn i'r 'Hen Gorff', sef y Methodistiaid Calfinaidd. Roedd yr amrywiaeth o enwadau'n poeni am ddylanwad y dinas fawr ar y Cymry alltud, a ran o'u dyletswydd yn ninasoedd mawr Lloegr (a Chymru) oedd eu gwarchod rhag atyniadau 'gwrth-cristnogol' llefydd felly. Gafodd Gymry cyfle i fynychu nifer o ddigwyddiadau'n ystod yr wythnos, yn ogystal (wrth reswm ag oedfeydd y Sul, rhywbeth a wnaeth y mwyafrif ohonynt yn ól cofnodion yr eglwysi.
Mae'r llyfr yn bwrw golau hefyd a rheolau llym yr eglwysi adeg hynny, a'r ffordd yr oeddynt yn barod i gosbi'n hallt aelodau nad oedd yn dilyn eu dehongliad penodol nhw o'r Beibl. Mewn un achos a ddisgrifwyd, mae aelod o gapel Owen yn cael ei 'yrru' o'r eglwys gan ei fod wedi derbyn swydd a allai fod yn galw arno i agor gatiau dociau ar y Sul. Mae dadl yn codi ymhlith rhai aelodau a blaenwyr y capel ynglyn á pha swyddi sy'n hanfodol i'w gwneud ar y saboth. Mae un aelod yn cyfeirio at arferiad un o'r flaenoriaid o gael ei yrru at y capel mewn cerbyd gan un o'i weision ar ddiwrnodau glawiog. Cyn hir mae'r gweinidog awdurdodol yn dod á'r dadleuon i ben trwy alw am bleidlais, ac yn 'cyfeirio' at y canlyniad yr hoffai ei weld. Mae'r docwr druan yn colli'r dydd ac yn gadael ei gapel wrth gwrs.
Yn son am lyfrau, dwi newydd dod o hyd i fersiwn ar lein o 'Hanes y Wladfa' (pwnc arall sy'n fy ymddiddori), ac wedi ei lawrlwytho at y ffo^n. Digwydd bod dyma destun dau llyfr a gafodd gyhoeddusrwydd ar Wedi 7 heno. Y gyntaf oedd llyfr 'bwrdd coffi' Mathew Rhys am ei daith ar gefn ceffyl dros y paith ym Mhatagonia, a'r llall yw hanes y rhai a deithwyd yno ar y Mimosa a llongiau eraill, yr enw dwi'n meddwl oedd 'Stori'r Wladfa'. Mae gen i ychydig o bethau i roi ar fy rhestr dolig beth bynnag!
1 comment:
Os oes diddordeb gen ti yn hanes y Wladfa, baswn i'n awgrymu O Drelew i Dre-fach gan Marged Lloyd Jones a Haul ac Awyr Las gan Cathrin Williams. Mae'r olaf allan o argraff ond mae'n siŵr cei di ei ffeindio yn ail-law. Cathrin ydy'r ddynes arhosais i efo hi'r haf 'ma. Mae hi yn y Wladfa eto ar hyn o bryd.
Post a Comment