18.5.11

Diwrnod i gofio...

Yn ol ym 2007 pan cynhalwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yn Yr Wyddgrug, penderfynais roi cynnig ar gystadleuaeth  Dysgwr y Flwyddyn.  Nid oedd fy nghais yn un lwyddianus y flwyddyn honno, a phrin ges i siawns i fwynhau'r profiad mewn gwirionedd oherwydd prinder amser ar y ddiwrnod.  Teimlais braidd yn 'fflat' am sbel ar ol y profiad hwnnw, felly nad oeddwn i'n sicr am drio eto, ond yn y pendraw penderfynais roi un gynnig arall iddo, yn enwedig gyda'r steddfod yn dychweled i'r gogledd dwyrain, i'r dref lle ganwyd fy nhad!

Felly bore dydd Sadwrn dechreom ni ar y taith tri chwater awr i Wrecsam.  Ar ol methu cael hyd i fynedfa Coleg Iâl a'i barcio am ddim, daliais £3 i barcio yn ymyl y pwll nofio, a darganfodom giât i'r coleg - ond un dan glo!  Gyda amser fy nghyfweliad yn agoshau, penderfynom ddringo'r giât i gyrraedd derbyniad y Coleg oedd o fewn ein golwg ni.  Nad oedd y tasg yma'n un hawdd i Jill, ond gyda cefnogaeth lleisiol rhai o staff y llyfrgell drws nesa (yn cael torriad sigarennau wrth y drws cefn) llwyddom gyrraedd y nod o fewn amser.   Ar ol croeso cynnes gawsant ddigon o amser am baned sydyn, cyn i mi gael fy arwain draw i adeilad ar wahan, a'r cyfweliad ffurfiol.   Teimlais aeth pethau'n o lew yn fan'na, er i mi barablu ymlaen am dros bum munud yn ddibaid fel ymateb i'r cwestiwn cyntaf.   O fewn dim o'n i'n cael fy arwain yn ol at fynedfa'r coleg - ac i dorri'r sychder a fagwyd yn ystod y cyfweliad - cyn mynd i ffeindio Jill.   Gefais fy hysbysu bod Jill yng nghanol 'sesiwn stori' oedd un o'r gweithgareddau a drefnwyd i lenwi'r dydd, felly ges i siawns i siarad efo Spencer Harris, dysgwr y flwyddyn 2001, a chefnogwr brwd ac arbennigwr ar Glwb Peldroed Wrecsam.   Ar ol sgwrs efo rhai o'r cystadleuwyr eraill, penderfynom anelu at y dref am rywbeth i fwyta, ac am gip ar ddatblygiad siopa newydd Wrecsam 'Dol yr Eryrod' ('cwlwm tafod' o enw os welais i un erioed!).

Ar ol pryd o fwyd ysgafn ond blasus yn Pizza Express, dychwelom i'r coleg mewn amser i glywed diwedd sesiwn bingo a drefnwyd i'r cystadleuwyr a'u cefnogwyr.  Cawsom sgwrs braf efo Sion Aled am seiclo yng Nghilgwri ymhlith pethau eraill, cyn gafodd pawb eu cyfeirio at y 'Rendevous', ystafell cyfforddus lle roedd sesiwn salsa ar fin ddechrau.   Nad ydwi'n person gyda 'symudiadau' da, ond o dan yr amgylchiadau ro'n i'n ddigon hapus i gymryd rhan.  Wrth reswm roedd popeth trwy gyfrwng y Gymraeg, felly derbyniodd Jill (a nifer eraill) eu gwers Salsa cyntaf tra wynebu her ychwanegol, ond gafodd pawb llawer o hwyl o dan hyfforddiant cadarn.

Cyn hir daeth yr hwyl salsaidd i ben, gan bod y beirniaid yn barod i ddatgan enwau'r pedwar yn y rownd derfynol. Clywson ni ganmoliaeth mawr am safon pob un o'r cystadleuwyr, ond gefais sioc mawr o glywed fy enw'n cael ei ddarllen,  do'n i wir ddim wedi disgwyl mynd trwyddo.   I fod yn onest dwi'n gweld fy hun fel 'cynrychiolydd' yn hytrach na 'chystadleuydd', un o bedwar/bedair (fi yw'r unig dyn!) sydd gan y fraint o fynd i'r Eisteddfod eleni i gynrychioli llwyddiant sawl dysgwr.
Dwn i ddim yn union be' i ddisgwyl  ym mis Awst, ond edrychaf ymlaen!

8 comments:

Emma Reese said...

Diolch am yr adroddiad difyr. Ches i mo fy synnu o gwbl fod ti wedi cael dy ddewis yn un o'r pedwar. Pob hwyl efo'r ddiwrnod mawr ym mis Awst. Da nad oedd rhaid i ti a dy wraig ddringo'r giât eilwaith gyda llaw!

JonSais said...

Neil
Ti'n haeddu'r cyfle i fynd i'r rownd terfynol a pob lwc. Llongyfarchiadau mawr.

Nic said...

Llongyfarchiadau i ti, a phob lwc yn y rownd terfynol.

neil wyn said...

Diolch i bawb am y cefnogaeth calonogol:)

Ann Jones said...

Newydd darllen y post yma. Llongyfarchiadau! Dwi ddim yn synnu chwaith

neil wyn said...

Diolch yn fawr Ann

Corndolly said...

Sori mod i'n hwyr ysgrifennu yma. Dw i wedi anfon fy nymuniadau gorau atat ti drwy e-bost, ond ar ôl i mi wneud 'dal i fyny' ar y blogiau, gwelais i hyn, felly, unwaith eto. Da iawn ti ! Dw i'n meddwl am brynu tocyn i'r noson ddathliad, ac dw i'n casáu'r gystadleuaeth. Bydda i yno, ym Maes D yn ystod y prynhawn, oherwydd mod i wedi prynu tocyn yn barod !!

neil wyn said...

Diolch yn fawr Ro, Gwelais dy e-bost (gebeithio wnes i ateb!) cwpl o wythnosau yn ol. Darllenais fy Mam yn y Daily Post heddiw bod y tocynnau ar gael erbyn hyn am y noson, ond dwi heb clywed eto. Mi fasai'n braf gweld gwynebau cyfarwydd yn fan'na:)