Dwi ddim yn sicr lle'n union mae 'ffin' Cilgwri. Mae 'na 'Fwrdeistref Metropolitan Wirral', sy'n rhan o 'Swydd Merseyside', ond mae 'na ran arall sydd yn Swydd Caer o hyd, gan gynnwys llefydd fel Ellesmere Port a Neston. Wedi dweud hynny, credaf fod Shotwick, pentre cuddiedig sydd dim ond tafliad carreg o Gymru (yn llythrennol!), yn cyfri fel rhan o'r penrhyn, ac mae'n digon posib hwn yw'r pentre olaf yng Nghilgwri, hynny yw cyn cyrraedd y llefydd yna sydd ddim mewn gwirionedd rhan o'r penrhyn.. ond dwi ddim yn sicr!
Mae'n debyg bod pawb sy'n cyfarwydd â'r taith o Lannau Mersi i'r Gogledd wedi sylwi ar yr arwydd sy'n eich cyfeirio i Shotwick, cwta milltir o gyrraedd y 'cyfnewidfa' Drome Corner. Pe tasech chi i gywiro oddi wrth eich taith a dilyn yr arwyddion, ym mhen llai na filltir a hanner mi fasech chi yng nghanol Shotwick, sy'n cysgodi ar gyrion 'gwastadoedd' aber y Dyfrdwy. A dweud a gwir does fawr o bentre yno, dim ond llond llaw o fythynod, ychydig o ffermydd, neuadd Shotwick ac eglwys hynod o ddiddorol ac hanesyddol. Mae'n annodd credu heddiw, ond ar un adeg ffordd masnach hynod o bwysig dilynodd y ffordd yma, sef llwybr masnach y 'Saltsway'. Dros 'rhyd Shotwick' gyrraeddodd fyddin Edward 1af Cymru, ac mi gludodd gerrig a ddefnyddwyd i godi Castell y Fflint o chwarel yng Nghilgwri dros yr un groesfan.Felly roedd o'n braf cael y cyfle ail-ymweled â'r pentre ar daith beicio'r wythnos yma. Ges i fy synnu i ffeindio drws yr eglwys heb ei gloi, yn enwedig o gofio darllen yn y papur lleol am ladron yn dwyn gloch enwog oddi yno llai na blwyddyn yn ol. Mae o wir yn eglwys hynod o ddiddorol, ac mae'n anhygoel meddwl bod rhan o'r adeilad yn dyddio yn ol i'r 12C. Mae'r porth yn dangos creithiau 'gweithgaredd dydd sul' gwahanol a digwyddodd yno yn y 14C. Ar orchymyn Edward III mi fasai saethyddion yn defnyddio'r sabath i ymarfer eu sgiliau saethu ar gaeau cyfagos y 'Butts', a gadael degau o rychau yng ngherrig tywodfaen y porth wrth roi min ar eu saethau!
rhai o'r rhychau a greuwyd gan saethyddion y 14C.. |
O Shotwick mae'n posib croesi i Gymru trwy ddilyn lon bach (di-ceir) oedd yn arfer arwain at hen gei ar y Dyfrdwy. Erbyn heddiw mae'r lon yn eich arwain trwy'r caeau tuag Drome Corner, ac i feicwyr at hwylustod a diogelwch y llwybrau beicio i Gei Connah a Chaer!
Croeso i Gymru! mae hen gadair wedi ei losgi yn dynodi'r ffin ar y lon o Shotwick |
Ond y tro yma ro'n i am ddod o hyd i lwybr arall er mwyn gadael y pentre, sef llwybr cyhoeddus sy'n arwain at pentre olaf ond un Cilgwri, sef Puddington. Ges i dipyn o dasg yn cael hyd i'r llwybr 'ma, ac roedd rhaid i mi stryglo i godi'r beic dros ambell i gamfa, gyda dalan poethion yn bygwth fy nghrothau coesau (calves) o bob cyfeiriad! Ond llwyddais cyrraedd Puddington yn y diwedd, yn falch ro'n i wedi dod o hyd i ffordd di-draffic arall o archwilio'r penrhyn 'ma.
2 comments:
Llongyfarchiadau mawr i ti ar fynd ar y rhestr fer! Mae'n hen dro i ti ennill Dysgwr y Flwyddyn. (Dw i'n cael caniatâd yr enilli di'r gystadleuaeth!) Dy Gymraeg di'n llawer gwell na'r rhai sydd wedi ennill o'r blaen.
Diolch yn fawr iawn Junko am dy eiriau caredig iawn. Ges i sioc a dweud y gwir, er fod o'n sioc braf wrth reswm!
Roedd o'n bleser cwrdd â chymaint o ddysgwyr brwdfrydig eraill, a theimlais anrhydedd mawr i gael fy newis i fynd ymlaen, a hynny ar ddiwedd diwrnod bendigedig. sgwenna i am y rhagbrofion yr wythnos yma gobeithio.
Post a Comment