23.6.11

Noson gyda Jerry Hunter

Dwi newydd dychweled o noson arbennig draw yn Yr Wyddgrug yng nghwmni yr Athro Jerry Hunter, darlithydd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor (ymhlith llawer o bethau eraill mae'n siwr).  Noson 'C Ciwb' oedd o, clwb cymdeithasu Cymraeg y dre, sy'n i weld yn mynd o nerth i nerth.  Mae un o ddosbarthiadau'r ardal wedi bod yn astudio un o lyfrau yr Americanwr, sef 'Gwenddydd', nofel wnaeth ennill  medal rhyddiaith yr Eisteddfod y llynedd.

Ni fasai neb yn ystyried Jerry Hunter yn ddysgwr wrth reswm. Mae o'n siarad Cymraeg cyfoethog a graenus, yn drwm erbyn hyn o dan ddylanwad tafodiaeth ei ardal mabwysiedig sef Dyffryn Nantlle. Mae'n chwater canrif bron ers iddo fo fynychu cwrs Wlpan dwys yn Llambed, a dim ond ambell i waith clywais fymryn o'r acen Americanaidd yn treiddio ei Gymraeg.

Gaethon ni ein diddanu am ddwy awr bron gan hanes ei fywyd - sut ddaeth hogyn o Cincinnati i fod yn ysgolhaig llenyddiaeth Cymraeg - ac ychydig o gefndir ei nofel buddugoliaethus, rhywbeth sydd yn sicr o'm sbarduno i ail-afael ynddi, ar ol i fy mhen cael ei droi gan lyfr arall cyn i mi roi siawns dda iddi.

Roedd 'na sesiwn holi ac ateb ar ol yr araith, a gaeth nifer o gwestiynau diddorol iawn eu gofyn a'u hateb. Felly noson hynod o lwyddianus, a ches i gyfle i gwrdd a nifer o hen ffrindiau dwi heb weld ers meitin.

4 comments:

Emma Reese said...

"ymhlith llawer o bethau eraill mae'n siwr"

Mae o'n dawnsio Salsa hefyd!

neil wyn said...

Wow, do'n i ddim yn disgwyl Salsa i fod yn un o'r pethau eraill!

Diane said...

Clywais i fe ar y Radio yn ystod y 'Steddfod y llynedd. Ysbrydoliaeth yw e, dim achos mod i'n gobeithio, neu hyd yn oed yn trio, i gyrraedd ei safon yn Gymraeg, ond achos fod e'n dangos bod y safon uchel yn gyrhaeddadwy o gwbl i oedolyn.

neil wyn said...

Cytuno'n llwyr Diane, mae ei Gymraeg yn ysbrydoliaeth ac yn sbardun i ni i gyd.