31.7.11

Eisteddfod rhan 1....

Mi fydd hon yn bost eitha fyr gan bod ni wedi blino'n lan, ond o'n i isio sgwennu rhywbeth, pa bynnag mor fyr, am fy niwrnod cyntaf ar Faes Eisteddfod Wrecsam 2011.

Mi es i yno heddiw yn bennaf er mwyn cael fy nghyfweld gyda gweddill y pedwar olaf gan y bbc, a hynny'n fyw ar y teledu. Mi wnes i gyfweliad teledu cwpl o wythnosau yn ol, ond cael gorfod gwneud y peth yn fyw'n her newydd a gwahanol.  Diolch byth felly ges i gwmni dwy arall o gystadleuwyr Dysgwr y Flwyddyn (nad oedd Cat Dafydd yna yn anffodus oherwydd salwch).   Roedd o'n profiad diddorol a chyffrous a dweud y gwir, ac yn siawns i weld ychydig o bethau tu ol i leni'r bbc, hynny yw'r ystafelloedd colur a 'phabell' mawr llawn cyfrifiaduron ac ymchwilwyr.  Roedd 'na rywun yn edrych ar ein olau ni trwy'r amser, er roedd 'na lot o aros rhwng y darn 'byw' a recordio stwff o ran o noson wobrwyo nos fercher.   Un peth da am hyn oedd ges i ddigon o gyfle i siarad â Kay, Sarah, a'i gwr hi.
Mi aeth y darn byw yn o lew am wn i, er clywais fy hun wneud ambell i 'glanger'!  Mi aeth y dwy arall yn wych chwarae teg, ond wrth edrych yn ol y teimlad sydd gen i yw allai pethau wedi mynd yn lot waeth!

O ran y darnau wnaethon ni recordio nes ymlaen, mae'r syniad yw a fyddan nhw'n cael eu chwarae ar noson y wobrwyo.  Mi fydd hynny'n gadael i ni 'ymlacio' ychydig, yn hytrach na phoeni am siarad yn cyhoeddus ar y noson.  Do'n i ddim yn andros o hapus gyda'r ymatebion a roddais, ond dyna fo, mae o wedi darfod rwan.  Gobeithio does dim rhaid i mi guddio o dan y bwrdd!

Ar ol gorffen y cyfweliadau piciais i draw i Faes D er mwyn cyfarfod Mark o'r dosbarth nos. Gaethon ni sgwrs braf dros paned, a wnes i weld nifer o ffrindiau eraill hefyd.  Roedd popeth braidd yn afreal mewn ffordd, gan bod sbio arnon ni o ochr draw y pabell oedd llun maint llawn o fi fy hun (a gweddill o ddysgwyr y flwyddyn)!

Ta waeth, mi fydda i nol ar y maes bore mawrth i wneud y cyflwyniad Daniel Owen yn Maes D

5 comments:

Emma Reese said...

Da iawn ti! Dw i'n cofio'r lluniau maint llawn o'r pedwar ym mhabell D yn Eisteddfod y Bala! Mi wna i brotestio os na wnei di ennill!

Emma Reese said...

Newydd dy weld ar newyddion BBC. Da iawn ti!

neil wyn said...

Diolch Junko, newyddion nos wener oedd hon, gyda darn am Sarah Roberts y therapydd galwedigaethol hefyd?

neil wyn said...

diolch am y cefnogaeth Junko, Mae safon y gweddill yn eithriadol o dda, felly gawn ni weld be digwyddith, ond dwi wedi cael hwyl cwrdd â phawb eraill beth bynnag.

neil wyn said...

diolch am y cefnogaeth Junko, Mae safon y gweddill yn eithriadol o dda, felly gawn ni weld be digwyddith, ond dwi wedi cael hwyl cwrdd â phawb eraill beth bynnag.