16.7.11

Wythnos anarferol... a Chariad@Iaith...

Mae'r wythnos hon wedi bod yn un anarferol i mi.  Dwi wedi treulio rhan mwy'r wythnos yn fan hyn yn Stockport yn edrych ar ol fy nai, ar ol i'w chwaer dioddef anafiadau yn sgil damwain parc dwr yn Nhwrci.  Roedd angen i'w rhieni trefnu hedfan ar frys er mwyn bod wrth ei hochr. Derbynion alwad ffon nos lun gan ei chariad i ddweud ei bod hi'n cael llawdriniaeth frys, ac yntau yn methu trosglwyddo'r holl wybodaeth yn eglur ar y pryd, gan ei fod o mewn sioc hefyd.

Diolch byth mae hi'n gwella erbyn hyn, er mi fydd hi'n wythnos arall o leiaf cyn iddyn nhw cael caniatad dychweled adre gan y doctoriaid.  Dwi'n meddwl ga i ddychweled adre i Gilgwri heddiw, gan fod Wil yn mynd i aros efo ffrind am y penwythnos. Tu hwnt i'r penwythnos mae ffrindiau agos y teulu'n mynnu iddi fo fynd yno i aros (a chael ei aduno â chi'r teulu sy'n aros gyda nhw!).  Mae'n eitha gymleth a dweud y gwir, gan fasai'n well gan Wil aros yn ei dy^ ei hun (ac yntau'n pymtheg oed) ond chwarae teg mae o wedi bod yn eiddfed iawn ac yn gwmni dda i mi.

Er gwaethaf trefniadau anarferol yr wythnos, dwi wedi cael siawns i dal i fyny efo digwyddiadau yn y 'Fforest', hynny yw Cariad@Iaith, diolch i S4Clic.   Rhaid dweud fy mod i wir wedi mwynhau'r cyfres, ac mae S4C yn haeddu'r holl glod maent wedi derbyn hyd yn hyn.   Yr unig peth do'n i ddim yn disgwyl (a dim isio gweld i fod yn onest) oedd dychweliad Janet Street Porter ar y noson gwobrwyo, yn cwyno o hyd am gyfleusterau Nant Gwrtheyrn!  Fasai wedi bod yn well gen i weld Tanni Grey Thompson yno, ennillydd y cyfres, a rhywun sydd wedi defnyddio ei Chymraeg yn y cyfamser, ond ella nad oedd hi ar gael?

Cyfres arall? pwy a wir, ond mae'r cymysgedd o 'ser' yn holl pwysig mewn cyfres o'r fath, felly dim byd ar frys os gwelwch yn dda..!

3 comments:

Corndolly said...

Dw i'n falch o glywed bod popeth yn wella. Dw i ddim wedi cael siawns i dal i fyny efo'r holl gyfres eto, ond gobeithio, yn fuan.

neil wyn said...

Diolch Ro, mae'r gwersi sydd ar gael ar y wefan yn eu cyfanrwydd yn werth eu gwylio hefyd.

neil wyn said...

Diolch Ro, mae'r gwersi sydd ar gael ar y wefan yn eu cyfanrwydd yn werth eu gwylio hefyd.