5.8.11

Eisteddfod Wrecsam rhan 3...

Dydd mercher oedd y 'diwrnod mawr' i mi fel petai, gyda'r cyfweliadau ffurfiol 'dysgwr y flwyddyn' yn digwydd yn Ngwesty Ramada yn y bore. Ro'n i'n gallu gadael y ty yn eitha hamddenol er mwyn cyrraedd Wrecsam mewn da bryd, ac mi welais i Kay (yr ymgeisydd cyntaf) am sgwrs sydyn cyn iddi hi cael ei harwain i weld y beirniaid.  Roedd y cyfweliadau yn hanner awr yr un, felly ges i siawns i ymlacio a sgwrsio efo Sion Aled ac un o drefnwyr arall rhwng wylio ambell i seren S4C yn pasio trwy gyntedd y gwesty (Huw Llywelyn Davies a Mari Grug e.e. ..cyffrous!).  Mi ddaeth tro fi ym mhen dim, ac ar ol ffarwelio â Kay - wrth iddi hi adael - a dweud bore da wrth Sarah a'i gwr (yr ymgeisydd nesa), ges i fy arwain tuag at y pobl pwysig!
Roedd y cyfweliad unwaith eto'n ddigon anffurfiol ac aeth pethau yn o lew o ran safon y Cymraeg a siaradais (dwi'n credu), er gyda ambell i gwestiwn ges i drafferth meddwl am ateb hollol 'argyhoeddiadol'.   Roedd 'na un eiliad o embaras (a ni gefais gyfle atgyweiro y niwed!) wrth i Dyfed Tomos datgan ei fod yn cynddisgybl Ysgol Maes Garmon, ac hynny ar ol i mi son (er nid mewn ffordd cas) am y Gymraeg bratiog a ddefnyddwyd gan y rheiny o bryd i'w gilydd!  Dwi ddim yn credu gaeth o ei bechu, ond teimlais i 'eiliad crinj'!
Maes D dan ei sang yn ystod cystadleuaeth y corau (diolch i Ro am y llun)
Ar ol i fy amser dod i ben, gadawais gyfforddusrwydd corfforaethol y gwesty ac anelais at bebyll Maes yr Eisteddfod i gael 'di-briff' gyda ambell i ffrind yn fan'na.  Roedd gadael awyrgylch 'aircon-aidd' y Ramada yn sioc, gan bod yr haul wedi codi'n braf, ac roedd Maes D yn andros o boeth,  teimlais fy hun yn torri chwys heb wneud dim byd ond siarad.  Roedd rhywbeth anffurfiol ynglyn â'r cystadleuaeth dysgwr y flwyddyn i fod yn digwydd ym Maes D am 2 o'r gloch, felly ges i gyfle eistedd mewn sesiwn arall, un lle roedd trefnwyr cyrsiau Ty Newydd yn trafod efo dysgwyr yr hyn a fasen nhw'n dymuno gweld yn y cyrsiau eu bod nhw'n cynnig, a chlywsom ni ddarnau o waith a sgwennwyd y bore hwnnw gan ddysgwyr yn mynychu gweithdy gyda Ifor ap Glyn.  Ges i siawns i longyfarch y prifardd am ei gyfres 'Ar Lafar', a chael sgwrs difyr am acenion Saesneg megis Sgows a Cocni (magwyd ef yn Llndain ac yn amlwg yn mwynhau troi at ei Saesneg 'cocni-aidd' yng nghanol ei Gymraeg graenus,  boi clen!).   Erbyn i'r sesiwn dod i ben roedd gen i hanner awr i brynu crempog caws a nionyn andros o ddrud ar y maes cyn ei lyncu a dychweled i baratoi 'gweithgareddau' y p'nawn.

Dweud y gwir roedd y p'nawn yn fwy hectig byth.  Gafodd y sesiwn siarad anffurffiol efo 'pwy bynnag' ei gohirio tan dri o'r gloch. Efallai roedd rhaid i'r beirniaid cael bwyd, dwn i ddim, ond arhosais yno yn siarad efo 'pwy bynnag' beth bynnag! Gafodd ein cyflwyno yn swyddogol erbyn tri, a dechreuais siarad am y 'trysorau' ro'n i wedi mynd â nhw yno fel sbardun sgwrs. Mi es i â blwch pren a dwrniais i Jill pan o'n i'n canlyn, a hen 'plaen pren' a roddodd fy Nhaid i mi, offeryn oedd yn perthyn i'w dad o, yn ogystal ag ambell i lun o' teulu.  Erbyn hynny ro'n i'n teimlo o dan bwysau gan fod Jonathon (Simcock) yn aros i ddechrau cyflwyno ein sesiwn 'Dysgu Cymraeg tu hwnt i Gymru' drws nesa. Erbyn pump munud wedi penderfynais, ar ol siarad efo dau o'r tri beirniaid i bacio fy mhethau ac ymuno â Jonathon am y sesiwn hwnnw. Dweud a gwir dwi ddim yn cofio lot amdana fo, onibai am y ffaith ni gyfrannais yr hyn a dyliwn i wedi wneud, ond diolch byth roedd Jonathon yn gwybod y trefn.

Erbyn i ni orffen y sesiwn yno roedd o'n hen amser i mi ddychweled adre, a brysiais trwy dorfeydd y maes er mwyn dod o hyd i'r car a gyrru adre.  Yna gefais dri chwater awr i gael cawod, newid a pharatoi fy hun am y noson wobryo, cyn anelu unwaith eto at Wrecsam, y tro yma efo Jill a Miriam fel cwmni.

No comments: