21.8.11

Trysor newydd i Lerpwl...

Mi aethon ni ymweled ag Amgueddfa newydd sbon Lerpwl yr wythnos yma, a gaethon ni amser gwych.  Mae gan Lerpwl nifer o amgueddfeydd ardderchog, gan gynnwys un am hanes arforol (maritime) y ddinas, ac un am ei chysylltiadau dywyll â chaethwasiaeth.

Amgueddfa newydd Lerpwl


  Mae'r un newydd, sy'n sefyll rhwng y 'Three Graces' a Doc Albert, yn canolbwyntio ar y ddinas ei hun ac yn cael ei alw 'The Museum of Liverpool'.  Mae pensaeriaeth yr adeilad yn drawiadol er mae o wedi achosi cryn ddadlau (yn bennaf gan ei fod yn gymydog i adeiladau enwog ac hanesyddol), ond rhaid cofio wnaeth codiad yr adeilad 'Liver' peri cryn ddadlau hefyd, a hynny tua canrif yn ol bellach!

Ges i sypreis braf hefyd ar ddarganfod rhan bach o'r arddangosfa sy'n dilyn hanes Cymry Lerpwl, ar gyfraniad a wnaethpwyd ganddynt dros dau canrif a mwy yn y ddinas. Mae 'na lun o'r capel Cymraeg cyntaf a sefydlwyd yn y ddinas, a llun a dynnwyd ar ddiwrnod  agoriadol yr un olaf, sef Heathfield Rd (1929). Mae 'na lun o bwyllgor Eisteddfod Birkenhead (1917) hefyd, gyda'r rheiny eistedd tu allan i ryw plasdy crand yng Nghilgwri, yn ogystal a phob math o hen bethau o ddyddiau llewyrchus capeli. Os ti'n ymweled gei di weld copi o rifyn eitha ddiweddar o babur bro Glannau Mersi Yr Angor, sy'n pwysleisio presenoldeb y Cymry Cymraeg yn yr ardal hyd heddiw.

Felly os ti'n digwydd bod yng nghyffiniau Lerpwl ewch i'r adnodd gwych yma, sydd wrth gwrs fel pob amgueddfa yn rhad ac am ddim.

1 comment:

Jonathan Simcock said...

Rhaid i mi bicio draw i'r ddinas cyn bo hir!