21.9.11
Noson Cofrestru
Mi es i i'r Ysgol heno er mwyn siarad efo'r rheiny sydd am gofrestru i wneud y dosbarthiadau nos Gymraeg. Gaeth pawb noson eitha siomedig a dweud y gwir, gyda dim ond 65 o bobl yn dod trwy'r drws (tua hanner y nifer a ddoth y llynedd). Ges i chwech o bobl yn cofrestru i wneud Cymraeg lefel un, sydd gobeithio'n ddigon i gynnal y cwrs, a fel arfer mi fydd ambell i berson wedi ffonio fyny i fynegi diddordeb erbyn dechrau'r cyrsiau. Maen nhw isio wyth o bobl ar gyfartaledd mewn pob dosbarth. Ond mae gynnon ni i gyd (y tiwtoriaid) pryderon am ein cyrsiau, gan bod angen 150 o fyfyrwyr ar y cofrestrau i wneud y cyrsiau yn cynnaladwy, ac os na gawn ni y ffigwr yna, mi allen nhw (yr ysgol) tynnu'r plwg ar y cyrsiau i gyd. Maen nhw am roi hysbyseb arall yn y papur, ond mae ysgol lleol arall (sydd newydd troi'n academi) wedi dewis cynnig yr un fath o gyrsiau (tra geisio potsian tiwtoriaid!) er dim ond yn yr ieithoedd mwyaf poblogaidd, ac am brisiau cryn dipyn yn llai. Canlyniad o newidiadau strwythyrol yw hyn, hynny yw mae'r academis newydd yn medru gwneud yr hyn a mynnon nhw, heb gorfod cydweithredu o dan ymbarel yr awdurdod lleol. Gawn ni weld wythnos nesa!
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
3 comments:
Dyna siom, er croesi bysedd by ambell un yn troi fyny ar y noson. Beth yw'r canran o fyfyrwyr sy'n troi fyny ar y noson gyntaf sgwn i o'i gymharu a rhai sy'n cofrestru o flaen llaw.
Melltith ar dactegau'r Academi hefyd - fel tasai eu heffaith dinistirol ar addysg plant ddim digon drwg, mae'n nhw rwan yn bygwth dewis ac amrywiaeth o fewn y sector addysg gymunedol.
Caru ti Tony.
ges i ddau neu dri y llynedd yn ddechrau'n hwyr, felly dylsen ni fod yn iawn. 8 yw'r ffigwr anghenrheidiol dwi'n credu, er mae cyrsiau poblogaidd wedi tueddi rhoi cymhorthdal i'r lleill, hynny yw ar y nifer o fyfyrwyr ar gyfartal mae nhw'n edrych. Gaeth un o'r cyrsiau Sbaeneg 26 y llynedd er enghraifft, a Mandarin dim ond 3.
Rhaid i ti feddwl am gynllun B efallai. Pob hwyl i'r cwrs!
Post a Comment