4.9.11

Wedi 7 o Lerpwl...

Dydd mawrth mi ddaeth Gerallt Pennant a chriw ffilmio draw i Lerpwl i saethu darn bach am yr amgueddfa newydd.  Roedd Gerallt ei hun yn gwneud y gwaith cynhyrchu mewn gwirionedd, a'r dyn camera y gwaith cyfarwyddo i bob pwrpas, y dau'n gweithio'n hynod o gelfydd.

Roedd o'n braf cael siawns cyfarfod a siarad efo'r Parchedig Ddr. D. Ben Rees (neu Ben fel pobl yn ei alw!) sy'n arbennigwr ar Gymry Lerpwl, er o Landdewi Brefi mae o'n dod yn wreiddiol.  Mae o wedi gweithio'n ddi-baid dros Gymry'r ddinas ers degawdau, ac efo Amgueddfa Lerpwl fel cynghorydd hanes o ran pobeth Cymreig.  Roedd o'n falch iawn i weld yr arddangosfa yn cael ei agor tua mis yn ol, ac hynny mewn rhan mor amlwg o'r amgueddfa.

Drws nesa i'r arddangosfa am y Cymry mae arddangosfa hynod o ddiddorol am ddatblygiad Eglwys Cadeiriol y Catholygion yn Lerpwl yn y 20C.  Mae model enfawr o'r Cadeirlan arfaethedig a gynllunwyd gan Lutyens i weld (gei di weld hyn yn y cefndir ar Wedi7). Cynllun byth a wireddwyd oedd hyn wrth gwrs, ar wahan i'r claddgell (crypt) sy'n i'w weld o dan y Cadeirlan presennol. Mae 'na lun ar y wal o orwel Lerpwl pe tasai'r adeilad wedi ei godi, gyda chatref y Pabyddion yn twrio uwchben Cadeirlan yr Anglicaniaid, sydd yn ei hawl ei hun yn gawr o eglwys.

Ta waeth, mi aeth y cyfweliad yn olew fel y dwedais mewn post arall dwi'n meddwl. Gei di weld y canlyniad am weddill yr wythnos ar S4Clic.

1 comment:

Emma Reese said...

Da clywed bod y cyfweliad yn llwyddianus. Fel arfer dydy S4C ddim ar gael i ni'n anffodus.