Y gig go iawn cyntaf i mi fynychu erioed oedd yn y Liverpool Empire. Does dim byd tebyg i'r profiad o glywed swn band roc yn perfformio am y tro cyntaf, a hynny mewn awyrgylch trydanol theatr dan ei sang. Er nad oedd y band y roedden ni'n eu disgwyl yn un ffasiynol erbyn 1978 (os erioed!), roedd gan Barclay James Harvest dilyniant cadarn, ac roedd yr Empire wedi 'gwerthu allan' ar gyfer eu hymweliad blynyddol fel arfer.
Ro'n i wedi baglu dros gopi fy chwaer o 'Time Honoured Ghosts' (Polydor 1975) a dweud y gwir cwpl o flynyddoedd yn gynnharach, wrth bori trwy ei chasgliad o LP's, a ches i fy nenu yn syth gan lun trawiadol y clawr i (sy'n fy atgoffa i o dirlun Ddyffryn Clwyd), a maes o law gan y casgliad o ganeuon bachog â harmoniau persain y band o Sir Caerhirfryn. Erbyn iddyn nhw recordio'r albym hon yn Los Angeles, roedden nhw wedi rhoi'r gorau i deithio a recordio efo cerddorfa llawn (cyfnod arbrofol a gofnodwyd ar eu halbyms cynnar i label 'prog rock' EMI 'Harvest'). Serch hynny roedd trefniadau 'cerddorfaol' yn amlwg o hyd ar ambell i drac, diolch i 'Melotrons' a Hammond Stuart 'Wooly' Wolstenholme, a'i gyfansoddiadau 'bugeiliol', pryddglwyfus. Syndod felly oedd darganfod bod Wolstenholme, a nid un o'r brifleisydd, oedd 'personoliaeth' y band ar y llwyfan, a'r un a fasai'n llenwi'r bylchau rhwng y caneuon gyda ffraethineb annisgwyl. Wnaethon ni adael y theatr y noson honno gyda syniau'r encore olaf yn atseinio yn ein glustiau, a blas am gigiau byw. Dros y cwpl o flynyddoedd nesa mi welon ni nifer o 'fwystfilod prog roc' yn yr Empire, ond roedd eu hamser yn dirwyn i ben, ac roedd ton newydd yn brysur eu ysgubo i'r neilltu.
Cododd 'wahaniaethau cerddorol' mewn sawl band, wrth iddyn nhw geisio (yn ofer gan amlaf) addasu. Mae'n debyg roedd hyn yn ormod i'r hen Wooly, a gadawodd BJH tua '79 wrth i'r band newid cyfeiriad a dilyn llwyddiant masnachol ar y cyfandir. Digwydd bod mi welais Wolstenholme (a'i Felotrons!) unwaith eto, ond y tro yma yn hyrwyddo albym 'solo' fel cefnogaeth i daith Judy Tzuke yn 1980,
Byddai fy ngwybodaeth am hanes Wooly wedi dod i ben yna a dweud y gwir, hynny yw onibai am wyrth y we! Des i o hyd i weddill ei hanes yn ddamweiniol mewn ffordd tra googlo yn ddiweddar, ond hanes trist ydy o mae'n ddrwg gen i ddweud.
Nid oedd ei brosiect solo (Maestoso) yn llwyddiant masnachol, a dechreuodd Wooly yrfa newydd fel fferwmr organic, yn gyntaf yn Sir Caerhirfryn ac wedyn yng nghorllewin Cymru. Roedd ei hen gyd-aelodau yn BJH wedi hercian ymlaen hebddo fo am ormod o flynyddoedd mae'n debyg, ar gefn llwyddiant masnachol yn yr Almaen, cyn chwalu o'r diwedd yn 1997. Maes o law mi gododd ddwy fersiwn o'r band gyda enwau hurt o hirwyntog (e.e. Barclay James Harvest Through the Eyes of John Lees!) a datblygodd cryn chwerwder rhwng y dwy carfan.
Mi dreuliodd Wolstenholme cyfnodau yn yr ysbyty yn dioddef iselder difrifol, er yn sgil tranc BJH mi gytunodd i ail-ymuno â John Lees a chwarae yn fersiwn yntau o'r band. Ond doedd dim dianc rhag ei broblemau iselder, ac ym mis rhagfyr eleni, ar ol tynnu allan o daith arall efo Lees mi laddodd ei hunan. Diwedd trist i un o gymeriadau tawelaf roc a rol, ond dyma deyrnged addas. Heddwch i'w llwch..
No comments:
Post a Comment