Gefais wibdaith bach arall ar y beic yn ystod yr wythnos, y tro hwn yn rhannol i drio darganfod ffordd 'amgen' trwodd i lannau Dyfrdwy. Soniais sbel yn ol am hen lon John Summers, oedd yn arfer torri tua 6 milltir oddi ar daith beicio i Sir y Fflint o'r darn yma o Gilgwri, ac sy'n 'llwybr llygad' at y bont 'newydd' (Pont Sir y Fflint). Ond ges i'm ceryddu gan ffermwraig wrth i mi wyrio 'ychydig' oddi ar lwybr cyhoeddus rhwng Shotwick a Puddington, wrth drio darganfod ffordd drwodd i'r ffin! Wrth gwrs ymddiheurais yn gwrtais wrth esgus mod i wedi colli fy ffordd, ond mae'n amlwg bod y stad mawr (sy'n rhwystr sylweddol i gerddwyr a beicwyr yng nghornel deuheuol Cilgwri) yn gweld lot o bobl 'ar goll'. Er i mi barchu'r ffermwyr, tir âr ydy hwn, heb yr un anifail fferm i'w weld, a lonydd fferm llydan, rhy groesawgar o lawer i deithwyr 'direidus'!
|
Cronfa Dwr Llyn Shotwick, yn edrych tuag at Burton (gwelir y map) |
Ar ol i mi adael tir y fferm (lawr y llwybr cyhoeddus), anelais i lawr i'r gors o gyfeiriad Ystad Diwyddiannol Glannau Dyfrdwy, sef ochr draw i'r Sealand Ranges. Digwydd bod roedd gatiau'r meysydd saethu ar agor, gan fod cwmni garddio'n torri'r lawntydd (wir!), ond penderfynais peidio siawnsio 'troseddu' eto, ond troi i'r dde i ddilyn llwybr sy'n glynu at gwrs rheilffordd Wrecsam i Bidston, sef 'Lein y Gororau', yn ymyl hen seidings. Culiodd y llwybr yn y pendraw yn anffodus, yn fy ngadael heb nunlle i fynd ond yn ol, a finnau llai na chwater milltir o gyrraedd ochr draw tir gwaharddiedig y 'ranges'. Welais feiciwr arall ar y ffordd yn ol, ac mi holodd o fi i weld os ro'n i wedi croesi 'ffordd y gorsydd'. 'Naddo' dwedais, ond cawsom ni sgwrs diddorol am ei brofiadau o. Un dro wnaeth car swyddog y meysydd saethu trio torri yn ei flaen er mwyn ei rwystro rhag reidio! tra tro arall mi stopiodd fws mini o 'gadets' a'u sarjant a'i helpu codi ei feic dros y giat! Negeseuon cymysg felly!
Ta waeth, ar ol i mi gyrraedd adre, mi es i ar y we a ffeindio rhyw fforwm sy'n trafod hynt a helynt beicwyr lleol. Darganfodais bod ymgyrch yn drio ail-agor y 'marsh rd.' a hynny yn rhannol yn sgil sawl damwain ar yr A540 rhwng geir a beiciau. Mae 'na 'lwybrau' beicio eisioes sy'n ymlwybro lawr lonydd tawelach Cilgwri yng nghyfeiriad Caer a lannau Dyfrdwy, ond i gyrraedd ambell i ddarn mae angen mentro ar y A540, ffordd sy'n peryg bywyd mewn mannau. Pe tasai'r lon dros y gors ar agor, fasai hynny'n gadael i feicwyr teithio rhwng West Kirby a Chaer yn mwy neu lai di-draffic, trwy uno'r Wirral Way a'r llwybr Cei Connah-Caer!
Ar y funud mae nifer o sefydliadau yn rhan o broses ymgynghori, Sustrans, yr MOD, Railtrack, y RSPB (sy'n biau tir cyfagos) a Chynghorau Sir Y Fflint a Swydd Caer. Mi fydd y cynllun yn sicr o gymryd cwpl o flynyddoedd i wireddu, ond o leiaf mae 'na rywbeth ar y gorwel.
No comments:
Post a Comment