26.10.12

App i-social

Dyma'r tro cyntaf i mi drio app newydd sy'n eich galluogi cadw llygad ar sawl
rhwydwaith cymdeithasol yn yr un lle.  Er mwyn defnyddio Blogger
ar yr i-pad wnes i'w lawrlwytho, rhywbeth sy ddim mor hwylus ar yr app Blogger
sydd ar gael.  Y dyddiau 'ma mae fy nghysylltiadau i'r we yn digwydd gan
amlaf ar yr i-pad, pan dwi'n cael gafael ynddo fo hynny yw!
Yn ôl broliad yr app, a thystiolaeth nifer o adolygiadau ffafriol,  y
peth gorau ers bara wedi ei sleisio ydy 'i-social' ond gawn ni weld! 

1 comment:

Ann Jones said...

Mae'r iPad weithiay yn rhwystredig iawn - mi faswn i'n falxh iawn o gael ffordd o flogio yn defnyddio'r ap: ar y funud dwi'n gorfod mynd yn ol i'r Macbook neu cyfriadur "desc" i flogio, felly edrych ymlaen i weld pa fath o brofiad gei di