17.2.05

Cyfweliad Radio!

Dwi 'di bod draw yn Yr Wyddgrug heno yn y Sesiwn sgwrs arferol yn nhafarn y Castell Rhuthun. Roedd Nia, sy'n cynhyrchwr (ddylwn i ddweud 'cynhyrchwraig' falle?) efo Radio Cymru yna, yn gwneud recordiadau o bobl ar gyfer rhaglen sy'n cael ei darlledu ar y saithfed ar hugain o chwefror dwi'n credu. Dwi'n coelio fydd y rhaglen am bobl sy'n dysgu Cymraeg o gwmpas ardal Sir y Fflint.
Roedd rhaid i mi ail-diwnio fy nhglust yn gyflym iawn i'w acen hyfryd Sir Fon hi, tybed mae'n teyrnged go iawn pan mae pobl yn siarad i chi heb gwneud cymaint o 'allowance' i'r ffaith dysgwyr ydychi.

Mi ofynodd hi wrthi fi i ail -ddweud y cerdd Gwyn Edwards - Nid Welsh i fi ond Cymro, fel mi wnes i yn y steddfod y dysgwyr. Roedd hwnna yn iawn, ges i ddim problem efo fy nerfau, ond yn nes ymlaen pan roedd Nia yn gofyn wrthi fi nifer o cwestiynau roedd hwnna yn rhywbeth hollol wahanol! gawn ni weld y canlyniadau cyn bo hir ta beth!

Mi wnes i llwyddo difyrru Dewi pan mi ddwedais i rhywbeth fel "mae'n mewn dosbarth wahanol". Ro'n i'n trio dweud rhywbeth fel 'It's in another class/league', ond dwedodd o roedd y ffordd dwi wedi ei gwneud yn swnio mwy fel 'It's in another form'. Mae 'na lot o hwyl weithiau sy'n dod o'n camgymeriadau ni!

2 comments:

Rhys Wynne said...

Gobeithio bod Dewi ddim yn bychannu dysgwyr! Bachgen drwg;-)

Yn anffodus allai ddim meddwl am ddywediad yn Gymraeg sy'n gyfystur a 'In a class of his own'. Mai cyfaill i mi yn defnyddio dywediadau Saeseng fe "Dere mlaen Dyn" (Come on man) a "S'ami Mab" (Alright son), ond dwi ddim yn chwerthin am ei ben.

Efallai hoffet ti brynnu un o'r crysau-T or wefan hon: www.slebog.net, yn enwedig yr un 'Dosbarth' yn steil Tesco Value.

neil wyn said...

Diolch am y cyfeiriadau at 'Slebog', dwi'n meddwl am anrhegion y dolig yn barod rwan!

Dwi 'di cael cip yn y geiriadur idiomau ond 'sdim byd amlwg dros 'In a class of its own'. Gallen ni dweud 'O safon unigryw' falle....