15.2.05

Eisteddfod y dysgwyr Yr Wyddgrug

Roedd yr Eisteddfod y dysgwyr yn lot o hwyl. Er nad oedd lot o bobl yn barod i gystadlu yn yr cystadleuthau cerddorol (diolch byth fasai rhai yn dweud falle!), roedd 'na nifer o cystadluewyr yn barod i gael tro ar y llefaru, sef 'Nid Welsh yw fi ond Cymro' (dwi 'di neud awdioblog ohonhi 'ma). Mi ges i fy nhewis yn yr ail lle, felly da iawn i'r ennillwr sy wedi llwyddo i'w ddysgu y darn heb gymorth y geiriau o gwbl, nid fel fi a'r eraill!
Roedd y safon o'r cystadleuaeth ar gyfer y cadair bach derw a 'walnut' yn hynod o uchel yn ol y beirniad, efo dros ddeudeg o gynnigion sgen i ddim cyfle efo fy nhro cyntaf yn sgwennu cerdd mewn unrhyw iaith. Beth bynnag roedd y profiad o'w sgwennu hi'n un gwerth chweil i fi.
Uchafbwynt y noson heb os oedd y sgetses. Roedd yr un sy wedi ennill yn hynod o wreiddiol a braidd yn 'surreal' a dweud y gwir. Roedd Miss Zeta Jones yn cyflwyno cogydd 'Dudley' yr oedd yn gwneud Bara Brith yn ei drons (undies...dwi'n gwybod, ych a fi!), yn anffodus roedd 'Dud' wedi cael damwain yn y gegin felly roedd rhaid iddo fo cael cymhorth yn y siap o Mr Puw a chafodd y cyfridoldeb dros troi y cymysg efo llwy pren pob tro cafodd unrhywbeth ei ychwanegu. Wel roedd y peth yn ddoniol iawn mewn ffordd 'carry on', falle roedd rhaid i chi bod yna ar y pryd....!
Roedd y noson yn llwyddiant mawr 'swn i'n dweud, er gwaethaf y ffaith roedd rhaid i Fenter Iaith symud y peth o Glwb yr hen filwyr i'r Clwb Criced oherwydd bwcing dwbl ar yr munud olaf, da iawn i'r trefnwyr i gyd.

No comments: