Hen Borthladd
Hen borthladd ar lannau'r Dyfrdwy,
heb gychod, heb hyd yn oed dwr,
hen gau ers i'r llaid wedi llenwi,
pob sianel, pob cilfach o'r mor.
Erbyn hyn mae'r llaid wedi darfod,
wrth i'r gors wedi lledu yn llwyr,
i'w boddi hen lannau'r aber,
dan for o wyrdd heb stwr.
Mae'n anodd dychmygu y llongau,
yn disgwyl penllanw neu wynt,
cyn gadael diogelwch yr aber,
a'r lloches o'i bryniau tu hwnt.
Ond weithiau ar ambell gorllanw,
mae 'na olwg rhyfeddol o fri,
wrth i'r dwr yn dychweled i'r lanfa,
hen borthladd ar lannau'r Dyfrdwy.
No comments:
Post a Comment