14.8.05

Alun Tan Lan

Perfformiodd y canwr dawnus Alun Tan Lan set bach ar lwyfan 'Maes-d' ar dydd iau'r eisteddfod. Wnes i fwynhau ei ddull o ganu yn arw. Mae'n un arall i roi ar fy fhestr o grynoddisgiau mod i eisiau (Gwyneth Glyn ydy un arall), ond yn anffodus does dim disgownt ar gael ar CD's Cymraeg felly mae rhaid i fi aros ychydig.

Wrth cyd digwyddiad yn llwyr, mae 'na berfformiad acwstic yn cael ei darlledu o Alun TL a Gwyneth Glyn am chwech o'r gloch ar Radio Cymru y heno 'ma, gan cynnwys ddeuawd sy' 'di cael ei sgwennu yn arbennig i'r perfformiad. Edrych ymlaen yn barod...
Posted by Picasa

2 comments:

Rhys Wynne said...

Fues i'n gwrando ar Cofi Bach a Tew Shady ar Maes-D.

Nic said...

Mae CD Alun yn wych. Ac un Gwyneth Glyn hefyd.