15.2.06

Dick Roose

Dick Roose, neu Dr.Leigh Richmond Roose oedd perthynas pell i fi (cefnder fy Nhaid)a chwaraeodd peldroed (rhwng y pyst) dros Cymru a nifer golew o glwbiau mawr y cyfnod gan cynnwys Arsenal, Everton a Stoke. Dwi wedi clywed fy Mam yn son amdanhi ers o'n i'n ifanc ond heno mi ges i'r pleser o'i weld o yn chwarae dros Cymru ar Rhaglen 'Wedi 7'. Dim ond eiliad neu ddau oedd o ar y sgrin, ond mae'n anhygoel i weld y lluniau du a gwyn a chafodd ei ffilmio yn ol yn 1906. Mae'r ffilm yn cael ei chadw erbyn hyn lawr yn Aberystwyth yn yr archif ffilm genedlaethol dwi'n credu ar ol a chafodd ei ddarganfod yn 1997. Roedd yr eitem Wedi 7 yn ceisio tynnu sylw at y ffaith bod canmlwyddiant y ffilm unigryw yma yn cael ei dathlu yn y Cae Ras yn Wrecsam. Mae'r trefnwyr yn gobeithio cynnal gem rhwng timau plant s'yn cynhyrchioli Cymru ac Iwerddon (yr un un gwledydd a chwaraeodd yn ol yn 1906), a chodi plac i nodi'r ffaith. Mae nhw'n gobeithio cael perthnasau'r chwaraewyr oedd yn y gem gwreiddiol yna er mwyn helpu dathlu. Bydda i'n hapus i foddio (oblige?) a dweud 'Iechyd da Dick Roose'. Cymeriad a hanner yn ol pob son!

Mae Wedi 7 ar gael erbyn hyn 'ar alw' ar:
www.wedi7.com

1 comment:

Anonymous said...

Diddorol iawn. Parch mawr iddo. Diolch am rannu'r stori.