22.2.06

Taliad...!

Mi ges i syndod braf heddiw, hynny yw taliad o pumtheg punt dros cyfrannu ar 'Taro'r Post'!
Wedi meddwl amdanhi, ges i galwad ffon oddi wrth Mia (ymchwilydd ar y rhaglen) yn gofyn am fy nhgyfeiriad ar ol i mi ymddangos ar y rhaglen a mi ddwedodd hi roedden nhw mynd i fod yn anfon rhywbeth am fy nrafferth. A dweud y gwir ro'ni'n disgwyl rhyw pecyn Radio Cymru neu grys-t falle, ond nac ydy, taliad go iawn oedd hi. Dwi'n edrych ymlaen at sieciau arall am y dwy wythnosau eraill erbyn hyn, ond mae rhaid i mi cadw y 'dayjob' yn anffodus.

1 comment:

Rhys Wynne said...

Ges i siec o £30 punt am gyfweliad hollol crap ar y Newyddion am ffordd osgoi. Roedd yn hollol anisgwyl gan i mi wneud sawl cyfweliad yn y gorffenol heb gael dim dimau goch. Er mae fy nghyfenw wedi ei sillafu'n anghywir felly siwr o fod gair hasl yn y banc.