Dwi wedi bod yn meddwl ers sbel rwan am greu rywfath o 'dafarn ar lein' er mwyn cyfarfod a siaradwyr Cymraeg eraill am beint neu ddwy. Dwi'n teithio draw i'r Wyddgrug (taith o dua 25 milltir) pan dwi'n gallu nos iau, ond dwi'n sicr bod y tecnoleg yn bodoli yn barod er mwyn gadael iddyn ni creu tafarn 'virtual' i ddysgwyr mwy profiadol cael ymarfer efo Cymry Cymraeg a dysgwyr eraill. Yn sicr, fydd 'na raid iddyn ni ddarparu ein diodydd ein hunan ond pam lai dod a^ chriw o bobl gyda eu gilydd yn y fordd yma am sgwrs.
Dwi wedi lawrlwytho
'Skype' sy'n honni cael y tecnoleg er mwyn gwneud
'Skypecast' sy'n rhywfath o offer i'ch helpu chi creu sgwrs rhwng cymaint a chant o bobl ar yr un pryd. Dwi wedi bod mewn ambell Skypecast and mae'n ymddangos bod y peth yn gweithio i raddau (mae'r 'host' yn gallu rheoli faint o bobl sy'n cael meics 'ar agor' ar yr un pryd - rhywbeth sy'n effeithio safon y swn dwi'n meddwl), ond mae unrhywun yn gallu tynnu sylw y host er mwyn iddyn nhw agor eu meic. Mae Skype yn rhad ac am ddim a dwi wedi cael y peth ar fy nghyfrifiadur ers flwyddyn heb problemau.
Felly mae gen i ychydig o gwestiynau i unrhywun a^ diddordeb:
Oes gynnoch chi unrhyw noson ar gael er mwyn arbrofi efo Skypecast?
Wyti'n gwybod unrhywun system arall sy'n gwneud yr un peth yn well?
Wyti'n meddwl mae'n syniad call...?
Dwi'n byw ym Mhrydain felly dwi'n meddwl am rhywbryd yn ystod y nos (21.30-22.30 falle)