28.8.06

Dychweled y boi o Flaenau

Fel mae bron pawb yng Nghymru yn gwybod erbyn hyn mi ddychwelodd y Glyn Wise enwocaf ym Mhyrydain i'w fro ym Mhlaenau Ffestiniog dros y penwythnos. Fel fasech chi yn disgwyl mi gafodd o andros o groeso gan bobl Blaenau, ei ffrindiau a'i theulu. Yn ol yr hyn a daeth ar draws ar y teledu ar y radio, dydy o ddim wedi newid gormod trwy ei brofiadau ymhlith y pobl a bronnau ffug yn y ty. Dwi'n gobeithio mae ganddo fo asiant da sy'n mynd i edrych ar ei ol o wrth i'r cyfryngau yn trio gwneud arian allan ohono fo, ac fydd o'n 'cyflawni addewid ei enw' fel petai... amser a ddengys.
Dwi'n edrych ymlaen at ei glywed o'n siarad ar raglen jonsi.

No comments: