22.8.06

cloeriau (neu 'cypyrddau cloi')

Dwi wedi bod wrthi y wythnos 'ma yn adeiladu canoedd o gloeriau mewn stafelloedd newid clwb golff lleol. Mae'n y fath o waith dwi'n gwneud o bryd i'w gilydd, ac a dweud y gwir mae'n talu yn lot well nag unrhywun job arall dwi'n gwneud (tydi hynny ddim yn dweud lot!), ond ni faswn i'n hoffi eu gwneud nhw trwy'r amser.

Mae gweithio mewn clybiau golff yn gallu bod dipyn o hwyl, yn enwedig gan bod nhw'n llawn o reolau dwp. Fel rhywun sy'n gweithio yn y lle does dim rhaid iddyn ni ddilyn y rheolau wrth cwrs, ac er bod hi'n eitha plentynaidd falle dwi'n mwynhau crwydro yn araf o gwmpas y lolfa yn edrych yn ofnadwy yn anhrefnus (fel arfer) yn gwisgo jins, crys-t a 'threiners'. Yn ol arwydd yn y maes parcio nad ydy pobl yn gallu newid eu sgidiau yna... pam?

Mae'e aelodau wedi dechrau yn barod dod i mewn i'r stafelloedd newid (ar gau)er mwyn sbio ar y waith sy'n mynd ymlaen yna, ac mae gan bron pob un ohonyn barn wahanol am y cloeriau newydd, "Mae nhw yn lot llai na'r hen locers" (mae nhw yn fwy), neu "Mae 'na lai ohonyn nhw nag o'r blaen" (mae 'na fwy). Dwi'n jysd cadw fy mhen i lawr gan bod nhw yn mynd reit ar fy nherfau yn y pendraw, ac does 'na ddim modd o blesio pawb.

No comments: