20.9.06

rhagleni'r hydref

Dwi wedi weld ychydig o dreilars ar S4C yr wythnos hon ar gyfer rhaglenni 'yr hydref' sy'n swnio diddorol i fi.

Yn cyntaf, y rhaglen am gystadleuaeth 'Dysgwr y Flwyddyn' yn mynd allan nos yfory (nos iau), dwi'n ceisio dal y rhaglen yma pob flwyddyn. Mae 'na gyfres hefyd am wreddiau yr iaith Cymraeg, efo'r 'amlddawnus' Gwyneth Glyn sef 'Taith yr Iaith' sy'n fy nhiddori, yn anffodus wnes i anghofio i'w gwilio hi neithiwr felly mi wna i drio recordio'r rhaglen wrth iddi hi cael ei ailddarlledu ar 'digidol' p'nawn yfory.

Mae rhaid i fi wylio 'Mastermind Cymru' hefyd er mwyn gweld ffrind o Sir y Fflint sy'n gwneud cais yn y 'sedd du'. Ac yn olaf mae 'na gyfres drama o'r enw 'Cowbois a Injans' (neu rhywbeth felly) sy'n edrych dipyn o hwyl yn ol y dreiler y welais i.

No comments: