Fel sgwennais i ddoe, mi yrron ni lawr i'r canolbarth ddoe er mwyn cael golwg ar dorllwyth o golwynod milgwn bach (whippets). Roedd y taith o dua 90 milltir yn eitha araf ond ddaethom ni o hyd y ffermdy bach ger Trefeglwys ar ol bron dwy awr a hanner o yrru yn y pendraw. Roedd 'na ddeunaw o golwynod yna rhwng dwy dorllwyth, felly roedd dewis un ohonynt yn andros o her. Roedd ychydig o'r eist wedi cael ei gwerthu yn barod, felly dim ond tair ohonynt oedd ar ol felly wedi iddyn ni penderfynu ar 'ci benywaidd' fel petai roedd y dewis yn haws o lawer.
Y problem nesa (ac yr un mwya a dweud y gwir), oedd i ffeindio'r tair sydd dal i fod ar werth, yn enwedig efo deunaw o filgwn bach yn chwarae o gwmpas eich coes. Roedd gen i lun ohonynt efo llythren wrth ymyl i bob un colwyn, ond roedd ein tasg ni o ffeindio'r tair o'r lluniau yn bron amhosib. Pob un wnes i feddwl oedd yn ast oedd yn ddigwydd bod bachgen. Ta waeth efo help 'scanner' a 'meicrochips' sydd ynddyn nhw i gyd, mi lwyddom ni dewis un o'r anifeiliad annwyl. Mi ffydden ni'n dychweled i'w casglu'r colwyn Cymreig 'Layla' ym mhen tri wythnos.
No comments:
Post a Comment