7.9.06

noson diddorol

dwi ddim yn teimlo bo fi'n cael fawr o amser i sgwennu dim byd ar hyn o bryd, ond rhaid i sgwennu ychydig am y sesiwn sgwrs heno. Mae Dafydd erbyn hyh wedi gadael ei swydd efo menter iaith er mwyn dilyn cwrs PGCE (pob lwc iddo fo), felly heno oedd noson cyntaf Alaw yn gwneud y sesiwn sgwrs. Dim ond y dau ohonyn ni oedd yna nes i 'Mo', cariad Alaw ymuno a^ ni. Boi glen iawn ydy o o Abertawe, ond o Kuwait yn wreiddiol. Mae o wedi dysgu ychydig o Gymraeg, ond mae o'n awyddus i ddysgu mwy chwarae teg iddo fo. Wrth cwrs Arabeg yw ei famiaith ond mai ei Saesneg (acen Abertawe) yn fendigedig, ddylai fo dysgu yn gyflym.

wel dwi wedi blino yn rhacs felly...nos da

No comments: