9.9.06

Taith i'r canolbarth

Dyni'n mynd lawr i'r canolbarth y bore 'ma,i ardal Caersws, er mwyn cael golwg ar dorllwyth o whippets (eh up lad) tua pump wythnos oed. Dani wedi bod yn chwilio am gi newydd ers sbel rwan, wedi iddyn ni golli ein 'whippet croes' tua flwyddyn yn ol. Taith o ryw dwy awr ydy hi dwi'n meddwl, felly gobeithio mae popeth yn iawn efo nhw, os mae nhw yn, fydden nhw yn barod i gasglu i mewn tair wythnos. Rhywfath o 'ganolfan achub' ydy hi, yn y mynyddoedd, ond dwi ddim yn meddwl fydd 'na cyfle i siarad Cymraeg yna o brofiad fy sgwrs ar y ffon, swniodd hi dipyn o 'brummie' i mi.

Mi wna i sgwennu mwy ar ol cyrraedd adre...

No comments: