19.11.06

noson cwis

Mi es i i noson cwis nos iau draw yn Yr Wyddgrug a chafodd ei trefnu gan CYD a'i cyflwyno gan cwpl o fois o'r De. Un ohonynt o Pobl y Cwm ers talwm a'r llall o chydig o raglenni eraill S4C. Ymddiheuriadau dros anghofio eu henwau nhw, achos chwarae teg iddynt, roedd hi'n noson hwylus dros ben. Mi ddaeth ein tim ni yn ail(allan o tua wyth), ond dim lot o ddiolch i fi. Ar wahan i hynny dwi'n dal i drio cwblhau traethawd am bwnc hanes y Celtiaid ar gyfer y cwrs Llambed sy'n cymeryd oes oesoedd i'w gorffen hi.

Wrth cyd-digwyddiad, mae fy merch naw oed (sy'n gwneud lot o stwff am y rhufeiniaid ar hyn o bryd yn yr ysgol) wedi bod yn sgwennu darn ar gyfer papur dychmygol o'r enw 'Y Celtic Times' yn adrodd hanes brwydyr rhwng y rhufeiniad a chriw Boudica o'r safbwynt y Celtiaid, felly dyni wedi bod yn son cryn dipyn am hanes y Celtiaid. Mae hanes yn yr ysgolion y dyddiau yma yn gymaint well nag yr oedd hi'n ol yn y saithdegau o'r hyn dwi'n cofio!

No comments: