21.5.07

O Drelawnyd i Sandycroft...

Mae'n braf cael clywed bod ape^l Eisteddfod 07 yn Sir y Fflint wedi cyrraedd ei nod (tua £210,000 dwi'n credu) yn barod, ac hynny cwpl o fisoedd cyn agoriad y prifwyl. Pan ystyried y llwyddiant 'ma, mae'n pwysig i gofio hefyd dyni'n son am ardal lle gafodd 60% y poblogaeth eu geni tu allan i'r fro, y rhan mwyaf yn Lloegr. Heb tapio mewn i ryw gradd i'r di-Gymraeg (a dysgwyr wrth rheswm) yr ardal, mae'n bur debyg na fasai'r pwyllgor ape^l wedi llwyddo mor gyflym.

Yn son am y steddfod, mi ges i fy nheffro i lais cyfarwydd a y radio y bore 'ma, hynny yw boi o'r enw Carl Renshaw sy'n tarddu o Fagillt, dim ond ychydig o filltiroedd dros yr aber o fan'ma. Ro'n i'n arfer cwrdd a^ fo pan o'n i'n mynd i'r sesiynau sgwrs yn y Llonguchaf cwpl o flynyddoedd yn ol. Dysgodd o ei Gymraeg gan ei Nain a Thaid a hen bobl y pentre, sy'n golygu fod o'n siarad tafodiaeth go iawn yr ardal (prin iawn erbyn hyn). Hogyn glen iawn ydy o a dysgais i lawer ohono fo am sut i gadw y proses o ddysgu yn weddol syml. O'r hyn dwi'n credu mae criw o ddysgwyr yn y Llonguchaf (nid 'pun' bwriadol!) yn dal ati pob nos fawrdd efo Aled o Fenter Iaith. Roedd Carl ymhlith tua naw deg o bobl sydd wedi bod wrthi'n cerdded o amgylch Sir y Fflint, o Drelawnyd i Sandycroft a Chefn y Bedd i Fagillt, er mwyn codi pres i'r prifwyl ac ymwybodaeth amdanhi.

1 comment:

Huw said...

Hoffwn i gyfarfod Carl Renshaw i glywed ei iaith lafar. Dwi'n siarad ryw hybrid od gogledd dwyreiniol, ond tydw i ddim yn sylwi ar y geirfa dwi'n ei ddefnyddio.