8.5.07

Pethau bychain

Dwi wedi bod yn mwynhau cyfres 'Gwledydd Bychain' dros y wythnosau diweddar, er bod y cflwynwraig Bethan Gwanas yn fy nghythruddo fi ychydig o bryd i'w gilydd. Mae cynnwys y cyfres, sef hanes rhai o ieithoedd lleafrifol y byd, wedi bod yn diddorol dros ben. Heddiw roedd Bethan yn siarad am sefyllfa'r Ffrangeg yng Nghanada (dim cweit gwlad bychan, neu iaith lleifrifol chwaith, ond sefyllfa diddorol beth bynnag).

Y wythnos cyn hynny roedd hi'n son am sefyllfa y Basgeg yn Gogledd Sbaen (Gwlad y Basg?), a dyna fi, cwpl o ddyddiau ar ol i mi glywed y rhaglen hon, yn gweithio mewn ty cwpl o Sbaen (sy'n digwydd bod Paco Ayesteran, 'dyn llaw de' Raffa Benitez, a'i wraig Zaida, gwraig peldroed noddwediadol ar ran golwg ond annwyl dros ben). Mi glywais yr annwyl Zaida yn dweud wrth ei mab tair oed, "You'll have to get Papa(neu beth bynnag yw'r Sbaeneg dros Tad) to read you that book, Its in Basg". Wedi i'r plentyn (sy'n siarad ychydig o Saesneg rwan) mynnu ei bod Mam yn ei ddarllen hi, mi glywais hi'n ei ddarllen yn hollol diymdrech yn be' swniodd i fi Basgeg perffaith.

Dwi'n mynd i fy sesiwn sgwrs olaf yr heno 'ma, cyn i mi gael fy nghyfweliad 'dysgwr y flwyddyn' bore sadwrn... ahgggg gobeithiaf mae'r iaith yn llifo yn rhydd!

4 comments:

Aran said...

Pob lwc gyda'r cyfweliad!...:-)

Anonymous said...

Digon o win coch bore Sadwrn a byddi di'n iawn!

Linda said...

Dim ond rwan dwi'n gweld hwn. Gobeithio fod pob dim wedi mynd yn iawn i ti yn dy gyfweliad.

neil wyn said...

Diolch Linda. Wnes i ddim mynd drwodd i'r pedwar olaf ond sdim ots, oedd y profiad yn gwerthfawr. Mi welais i un o'r pedwar olaf yr heno 'ma mewn cyfarfod yr Eisteddfod, ac mae ei Gymraeg yn eithriadol o dda. Hogyn ifanc o Sir y Fflint ydy o, felly gobeithiaf ei weld o ennill y cystadleuaeth rwan!