19.6.07

rhaglen Maes-D

Mi es i i gyfafod pwyllgor y dysgwyr neithiwr a mi wnath hi barhau am ddim mwy nag awr a hanner.. dipyn o record dwedwn i.

Mae'r rhaglen wedi mynd i'r wasg erbyn hyn felly fydd 'na ddim newidiadau mawr, ac a dweud y gwir mae 'na ddigon o amrywiaeth yna i blesio pawb i ryw gradd. Gobeithiaf fydd hi wythnos i gofio, efo cymeriadau mor wahanol a Glyn Wise a'r prif copyn ei hun Mr Brunstrom yn ymweled a^ Maes-d. Mae gan pabell y dysgwyr enw dros gweinyddu panaid am ddim (wel am gyfranaid o dy ddewis dy!), felly maae'n gwerth gwneud ymdrech ymweled a^'r lle. Does dim byd gwell i ddysgwyr na cael Cymru Cymraeg i sgwrsio gyda nhw, yn enwedig mewn awyrgylch lle nad ydy'n nhw yn debygol o droi yn syth yn ol i Saesneg wedi i'r arwydd cyntaf o anhawsterau!!

Mae dim ond un pwyllgor arall rwan cyn dechreuad y gwyl, felly dwi'n dechrau disgwyl ymlaen i'r hwyl...

1 comment:

Rhys Wynne said...

Fyddai draw yna am baned, paid a phoeni. Oes modd danfon copi o'r rhaglen atai, er mwyn i mi ei ychwnaegu at:

http://eisteddfod2007.pbwiki.com/