7.8.08

camp ieithyddol Madison...

Nad yw'r enw Madison Tazu yn un rhwydd i'w anghofio, yn enwedig mewn gwlad o Jonsiaid di-ri. Ond ar ôl i'w champ iethyddol hi, prin iawn mai unrhywun ohonon ni sydd ymdrechu i gael gafael yn yr iaith hon yn debyg o angofio'r enw hyfryd am flynyddoedd maith. Mae'n dim ond cwta deg mis ers i Madison mynd ati gyda phenderfyniad cadarn i feistri'r Cymraeg cyn gynted â phosib, ac hynny yn ôl y son, ar ôl iddi hi cael ei gwahardd o ddosbarthiadau Cymraeg yn yr ysgol yn Aberteifi. 'Gwrthryfel' mi wnaeth hi yn erbyn y Gymraeg y dyddiau yna, ond wedi iddi hi symud o Gymru i Brighton a threulio peth amser yn crwydro o amgylch y planed, mi welodd hi'r werth yn ddiwylliant ei gwlad ei hun (wel y wlad a gafodd ei magu ynddi hi wedi ei geni yn Lloegr). Mae hi'n wir hanes anhygoel, ac o glywed safon ei Chymraeg mai'n sicr ei bod hi'n wir haeddu ei gwobr. Roedd safon y pedwar yn y rownd terfynol yn andros o uchel eleni, ac roedd hanes pob un yn diddorol a gwahanol, ond dwi erioed wedi clywed dysgwr yn siarad cystal wedi deg mis o ddysgu, llongyfarchiadau mawr iddi hi.

Fel gwrthgyferbyniad llwyr i gamp dysgwraig y flwyddyn efallai, mi welais i yrrwr tacsi yn siarad ar y newyddion am y cynnydd yn ei busnes dros wythnos yr Eisteddfod, ac yntau wedi bod yn disgybl yn ysgol Glan Taf rhai deng mlynedd yn ôl. Mi ddwedodd (yn ei 'Gymraeg' rwdlyd tu hwnt) roedd o wedi siarad mwy o Gymraeg dros y wythnos yma nag dros y deg mlynedd diwetha, tystiolaeth sy'n adlewyrchu'r realaeth ieithyddol y prif ddinas efallai, i sawl sydd wedi bod trwy addysg cyfrwng Cymraeg yna, ac rhywbeth dwi'n cyfarwydd gyda hi o Sir y Fflint.

2 comments:

Anonymous said...

Dych chi wedi clywed ei chyfweliad ar gwefan 'Daily Post?' Canolbwntiwch ar y diwedd!!!

neil wyn said...

Mewn ffordd wnes i deimlo drosto hi ar ôl gwrando ar y cyfweliad honno, dwi'n gwybod sut 'nghymraeg i'n diodde pan dwi wedi blino. Wedi dweud hynny, nid troi at y Saesneg wnath hi, fel tasech chi wedi disgwyl falle.

Ond, dwedodd yn ei chyfweliad am ei phroblemau ynglŷn â dysgu Cymraeg yng Nghaerdydd, cyn datgan basa hi wedi bod yn rhugl mewn chwech mis pe tasa hi wedi bod yn dysgu yn y Gogledd... wps, mae'n well gennyn ni i gyd, dwi'n credu, pobl sydd ddim yn swnio fel tasen nhw'n brolio am eu campau... ond beth yw'r ots, blinedig yr oedd hi....