10.8.08

y ddreigiau ar dan...

Mi gafodd Wrecsam y cychwyn gorau i'w tymor cyntaf yn 'Uwchgyngrair y Sgwâr Glas'(neu'r conference) ddoe. Dioddefodd Stevenage cweir go iawn, ond falle yn fwy pendant na'r canlyniad 5-0 roedd y nifer o ffydloniaid wnath troi i fyny, yn agos iawn at bump mil! Mi fydd hyn, yn ogystal a'r sgôr codi ofn ar y timau sy'n ymweled â'r Cau Ras dros y wythnosau i ddod.

Mae gen y cochion dwy gêm oddi gartref (yn dechrau nos iau yng Nghaer Efrog) i gadarnhau eu cychwyn disglair cyn croesawi Oxford (tîm dwi'n cofio yn yr hen 'First Division' yn eu dyddiau o dan ddylanwad pres amheus Robert Maxwell) i'r Cae Râs ar Awst 21ain. Erbyn hynny mi fydden ni'n gwybod os canlyniad 'ffrîc' yn unig mi welon ni dydd sadwrn! neu ddechreuad o ymgyrch go gry'...

1 comment:

Rhys Wynne said...

Cefais fy synnu gyda'r canlyniad (a thorf o bron i 5,000 hefyd), ond bydd yn ddiddorol gweld os mai ffliwc oedd o. Darllenais ar y we bod Little yn meddwl mae'r gwrthwynebwyr oedd y tîm gorau o bell ffrodd yn y rhan cyntaf, sy'n destyn pryder.

Gobeithio na fydd y tîm yn ôr-hyderys yn y gemau nesaf. Mae fy ngwraifd yn dod o Efrog, felly dw i'n mynd i wylio'r gêm yno (ac esgus i'r wraig mai trip i ymweld â'i theulu ydy o!)