3.9.08

Cymru, Lerpwl a Stryd Hope...



Y golygfa bendigedig o ben twr Cadeirlan Lerpwl tuag at y Gadeirlan Pabyddol (neu 'Pabell Paddy' fel mae'n cael ei galw) mae Stryd Hope yn eu cysylltu.

Clywais 'raglun' heddiw o ddrama o'r enw 'Dyddiau Hope Street' sy'n cael ei darlledu p'nawn Sul ar Radio Cymru. Gwrandawais yn astud ar ôl glywed enw'r ddrama gan fy mod i'n cyfarwydd iawn gyda'r ardal 'Stryd Gobaith' o fy nyddiau fel myfyriwr yn Ninas Lerpwl. Hope Street yw'r heol (trwy cyd-ddigwydiad) sy'n arwain o'r Gadeirlan Anglicanaidd at y Gadeirlan Pabyddol, ac enw braidd yn eironig gan ystyried yr hanes cythryblus rhwng y dau ffydd yn Lerpwl (Dwn i ddim os oes cysylltiad rhwng enw'r stryd a phentre Hope (Yr Hob) yn y Gogledd?). Ta waeth, yn ôl y rhaglun, hanes digwyddiadau yn ystod cyfnod y chwedegau yw'r ddrama, gyda cyffro 'Beatlemania' fel cefndir. Roedd hyn yn gyfnod pan oedd presenoldeb y Cymry Cymraeg yn dal i weddol cryf ar Lannau Mersi, cyfnod dwi'n ychydig yn rhy ifanc i'w cofio a dweud y gwir, ond dwi'n edrych ymlaen at ei chlywed.

A phan dwi'n wrthi'n son am gysylltiadau rhwng Lerpwl a Chymru, darllenais yn fy nghopi newydd o 'Sgrîn', bod S4C yn cynnal 'noson gwylwyr' yng Nghanolfan Bluecoat y Ddinas ar 23 Hydref am 7 o'r gloch. Wedi llwyddiant ei darllediad o 'Bawb a'i Farn' yn cynnharach yn y flwyddwn, mae'n ymddangos eu bod nhw wedi sylweddoli erbyn hyn mae ganddynt nifer sylweddol o wylwyr ar Lannau Mersi. Gobeithio ga i'r siawns i fynychu'r cyfarfod, a dweud fy nweud falle am ambell i raglen dda ac ambell i un gwael...!

2 comments:

Rhys Wynne said...

Bues yn Machynlleth dros y penwythnos, ac yn yganolfan MOMA (Oriel gelf yn hen gapel Y Tabernacl), roedd arddangosfa yn dathlu brodor o'r ardal o'r enw OWen Owen a aeth i Lerpwl i agor siop cyfadran fawr (sydd bellach ar gau dw i ar ddeall?)

neil wyn said...

Dwi'n cofio siop Owen Owen yn iawn, mae'n diddorol clywed am y cysylltiadau Cymreig. Mae 'na siop cyfadran yn y ddinas o'r enw Lewis's hefyd, ac roedd yn enwog am ei eisteddfod. Dyma llun mi ddes i o hyd iddi o T. Llew Jones yn ennill y cadair yna yn y pumdegau:
http://www.gtj.org.uk/cy/large/item/GTJ11571/

Anhygoel!