19.9.08

Diwedd pennod....

Roedd 'na deimlad o dristwch ar donfeydd Radio Cymru p'nawn 'ma efo'r darllediad olaf o sioe ceisiadau 'Dylan a Meinir'. Anfonais i e-bost yn gofyn am gais ('Adre' gan Gwyneth Glyn, cân mi glywais hi'n canu'n fyw ar y sioe am y tro gyntaf ychydig o flynyddoedd yn ôl) a charae teg i Dylan ces i e-bost yn ôl ganddo fo yn dweud diolch am yr holl cefnogaeth. A dweud y gwir mae hi wedi bod yn pleser pur yn gwrando ar a sioe, ac ar sioe Owain a Dylan cyn hynny. Ar hyn o bryd dwi'n gwrando ar raglen olaf Daf Du ar C2, ond wrth cwrs mae Daf yn symud i'r bororau (peth da dwi'n meddwl), ond yn achos Dyl a Mei does dim 'slot' arall iddyn nhw, ar hyn o bryd o leia. Dwn i ddim sut fath o raglen fydd Jonsi (am tair awr!!) yn y p'nawn, gawn i weld, wna i roi tro iddo fo beth bynnag, ond dwi ddim yn edrych ymlaen gyda llawer o frwdfrydedd a dweud y gwir...

3 comments:

Corndolly said...

Os wyt ti'n sôn am Gwyneth Gwyn, gobeithio mae gen i newyddion da i ti. Yn ôl Sion Aled, bydd hi'n dod i Wrecsam ar Noson Galan Caeaf, i ganu yn y Llew Coch, Marchweil. Wyt ti eisiau mwy o wybodaeth?

neil wyn said...

Yndw diolch! rhoi wybod i mi os gweli di'n dda, mi faswn i'n licio cefnogi hynny :)

Corndolly said...

Wna i yrru gwybodaeth ymlaen atat ti cyn gynted a phosib. Gobeithio bydd Siôn yn cadarnhau'r digwyddiad yn fuan. Dwi'n eitha dryslyd am ei chyfenw 'gwyn' neu 'glyn' ond dw i'n siŵr fy mod i'n siarad am yr un person.