16.9.08

Taro 9 yn taro deuddeg...?

Mae Caryl Parry Jones wedi codi nyth cacwn heddiw trwy ceisio gwynebu un o'r 'tabws' mwyaf yr iaith Cymraeg, hynny yw safon yr iaith sy'n cael ei siarad, a'r dirywiad mae hi wedi gweld ymhlith Cymraeg y to ifanc. O'r hyn dwi'n clywed mae ganddi hi bwynt, ond fel dysgwr dwi ddim yn meddwl mae gen i hawl i ddweud llawer am y pwnc. Dwi'n clywed hen bobl yn defnyddio Cymraeg llawn Saesneg weithiau, a dwi'n clywed pobl ifanc yn siarad Cymraeg sy'n swnio'n ddigon 'cywir' i mi, felly dydy hi ddim yn rhywbeth syml i ddadansoddi. Wedi dweud hynny, dwi yn poeni am dueddiad pobl ifanc i daflu mewn cymalau holl o Saesneg, er enghraifft 'Oh my God, mae hi'n completely obsessed efo fo' mi glywais rhywle yn ddiweddar. Fel person sy'n ar fin gweithio fel tiwtor Cymraeg, dwi eisiau gwybod y ffyrdd Cymraeg o fynegu pethau, dwi ddim yn meddwl mi fasai'n creu argraff da o'r Gymraeg i ddweud wrth y dysgwyr mae 'completely obsessed' yn ffordd derbyniol o gyfathrebu'r teimlad hynny yn y Gymraeg...!

Dwi wedi clywed y dadl, ac mae'n annodd i ddadlau yn ei erbyn os dychi newydd clywed brawddeg fel yr enghraifft uwchben, pam ydyni'n gwario gymaint o bres ar y Gymraeg pan mae siaradwyr yr iaith yn mor barod i lenwi'r iaith gyda Saesneg.

Siwr o fod mi fydd 'na fwy o ddadlau ar Taro'r Post yfory..

1 comment:

Zoe said...

Dw i'n cytuno...fel dysgwres, dw i ddim yn siwr os dw i'n gallu dweud llawer chwaith. Dw i'n ffafrio dysgu'r ffordd Cymraeg i ddweud rwybeth hefyd; unwaith roeddwn i'n cyffroi iawn achos bod person yn dweud "carrots" yn lle "moron" ar rhaglen coginio "Dudley." Ond hefyd dw i'n deall bod ieithoedd yn byw, a weithiau mae 'code-switching' yn digwydd (dyna'r enghraifft i chi :)

Roedd gen i mwy o bryder achos (os mi ddeellais i'n gywir) nad y myfyrwyr yn defnyddio'r iath allan yr ysgol. I goroesi, mae rhaid ieithoedd i gyd cael eu defyndd mewn llawer o ardaloedd y bywyd, dim addysg yn unig. Mae'r myfyrwyr yn graddio, mae rhai ohonyn nhw'n wrthryfela, ac wedyn dydyn nhw ddim yn defnyddio'r iath...