27.9.08

temtasiwn yr afal...

Wnes i bigo draw i Lerpwl ddoe efo'r bwriad o ddisodli fy hen i-pod mini (sydd bellach heb y gallu cadw siarj yn ei batri am fwy nag awr) gyda un o'r i-pod nano's newydd. O'n i'n penderfynol o gael un du, ond yn John Lewis du oedd yr unig lliw nad oedd ganddynt, felly pigiais i rownd y gornel i'r siop 'Apple'. Does dim byd o'i le, meddyliais, cael chwarae sydyn gyda'r holl teganau o fy nghwmpas cyn ofyn i un o'r pobl Apple am un o'r Nano's du. Ond oedd! mi gwympais i mewn cariad gyda teclyn sgleiniog llyfn, o'r enw 'i-pod touch' a felly gwariais i ychydig mwy na'r cant punt o'n i'n bwriadu ei gwario. Wedi dweud hynny, mae'r gwahaniaieth yn y dwy teclyn yn sylweddol, ac yn sicr gwerth y chwe deg punt sydd rhyngddynt ar ran pris. Mae'r touch yn debyg i i-phone (ond heb y ffon), ac ar wahan i chwarae cerddoriaeth, chi'n cael syrffio'r we arnhi hi (trwy wi-fi), dangos eich lluniau ar ei sgrin anhygoel, gwylio fideos a ffilmiau, yn ogystal a lawrlwytho pob math o 'applications' a gemau. Mae gan Apple dawn o greu dyfeisiadau technolegol sy'n cydbwyso ffurf a ffwythiant, mewn ffordd deniadol iawn. Dwi erioed wedi defnyddio 'Mac' fel cyfrifiadur, ond dwi'n sicr o gael fy nhenu yn ôl at demtasiynau'r siop 'Afal'

4 comments:

Emma Reese said...

Cyfrifiadur hyfryd ydy MAC. Mae o'n hawdd o lawer defnyddio a bron yn rhydd o firysau. Dydy o byth yn chwalu. (Yr unig chwalfa glywes i erioed ydy un brofiodd gan Rhys Llwyd.) Mae ein MAC ni'n chwech oed bellach ond yn dal i weithio'n ffyddlon.

Corndolly said...

Dw i'n hoff iawn o fyd technegol, rhaid i mi gyfaddef, hyd yn oed os nad oes 'na ddigon o ddefnydd gen i, ond weithiau, dw i'n teimlo'n fel dw i'n boddi mewn cyfarwyddiadau cymhleth.

Corndolly said...

Gyda llaw, siaradais i efo Siôn Aled ddoe, bydd y noson efo Gwyneth Glyn/Gwyn yn mynd ymlaen, rhaid iddyn nhw (Menter Iaith Maelor) benderfynu ar bris y tocynnau, felly mwy o wybodaeth yn fuan.

neil wyn said...

Diolch am y sylwadau Emma, mae'n rhaid i mi roi ystyriaeth difrifol i Mac dros y misoedd nesaf, mae'r hen Dell yn dal i weithio ar hyn o bryd, ond gyda ambell i wich sy'n fy mhoeni ychydig. Dyni'n rhoi lot o ymddiried i'r peiriannau gwyrthiol 'ma, on'd ydyn!

Diolch Corndolly hefyd am ddweud am y gig Gwyneth Glyn, dwi'n edrych ymlaen.