23.9.08

Un o dan fy ngwregys...

Wel mae'r dosbarthiadau nos wedi cychwyn a dwi'n meddwl mi aeth popeth yn iawn. Mae 'na ddeuddeg yn y dosbarth a phob un ohonynt yn reit glen a dweud y gwir, a mi ddoth pawb ymlaen gyda eu gilydd dwi'n meddwl. Ar ôl yr hanner awr cyntaf roedd fy ngheg yn andros o sych, felly o'n i'n wirioneddol parod i anfon pawb i gael paned erbyn hanner wedi saith. I fod yn hollol gonest, do'n i ddim yn deimlo'n rhy hapus gyda fy mherfformiad yn yr hanner cyntaf fel petai, wedi treulio tri chwater awr yn mynd trwy'r wyddor a'r hen 'ddiphthongs', o'n i'n meddwl roedd pobl yn edrych eitha ddiflas, felly ymdrechais i wella pethau wedi'r egwyl trwy gwneud cwpl o weithgareddau gwahanol. Mi hedfanodd yr ail hanner, a chyn i mi wybod roedd hi'n hanner wedi wyth. Mi ddoth cwpl o bobl i fyny i ddweud eu bod nhw wedi mwynhau, felly gobeithio nad ydwi wedi llwyddo cadw pobl i ffwrdd! Gawn ni weld wythnos nesaf! Ar y ffordd allan ges i siawns i drafod y noson gyda David Jones, a fel y dwedodd "that's one under your belt".

4 comments:

Emma Reese said...
This comment has been removed by the author.
Emma Reese said...

Da iawn ti! Be ydy oedrannau dy fyfyrwyr?

neil wyn said...

Dwi ddim yn un dda gyda oedranau a dweud y gwir, ond mae 'na gydbwysedd go dda 'swn i'n ddweud. Mae 'na bedwar yn sicr yn eu hugeiniau, un yn ei dridegau, cwpl yn eu pedwarddegau a phump arall yn eu pumdegau. Felly ar gyfartaledd mae'r oedran yn llai nag o'n i'n disgwyl.

Corndolly said...

Da iawn ti hefyd ! Gobeithio mwynheaist ti'r profiad. I gadw y diddordeb yn fyw ydy'r peth pwysicaf yn fy marn i, ac dw i'n siarad o safbwynt y dysgwr. Os bydd pawb yn mwynhau dysgu Cymraeg, byddan nhw'n hapus i gario ymlaen.