17.2.09

Ar y gorwel....

Mae rhaglen BBC2 'Horizon' pob tro yn ddiddorol, ond ar bennod a gafodd ei darlledu heno, ces i fy hudo gan raglen wnath archwilio 'ffiwsion niwcliar', a'r posibilrwydd o'r technoleg yma yn datrys ein problemau ynni yn y dyfodol agos. Mae'r cyflwynydd (dychrynllyd o ifanc), yr athro Brian Cox, wnath ein arwain ni o amgylch nifer o'r arbrofion anhygoel sy'n mynd ymlaen dros y byd ar hyn o bryd i ddatblygu cyfundrefn sy'n medru creu pŵer masnachol trwy ffiwsion. Mae'r her yn un enfawr, ac mae'r peirianwaith sy wedi cael ei creu i'w cyflawni'r her yn fwy! Mae'n ymddangos (o'r hyn wnes i lwyddo i ddeall) eu bod nhw yn gallu gwneud y proses o ffiwsion, ond dim ond am gyfnodau byr iawn iawn. I gymlethu pwnc cymleth, mae 'na nifer o ffyrdd gwahanol o geisio gwneud y ffiwsion 'ma (sef yr un proses sy'n mynd ymlaen tu fewn i'r haul), a does neb yn sicr eto i ba gyfeiriad mi fydd y datblygiad yn mynd. Mae 'na gydweithio'n mynd ymlaen rhwng nifer o wledydd y byd, ond maint y buddsoddiad 'ma yn gymharol bach (er biliynau ar filiynau o ddoleri!). Yn ôl un arbennigwr ynni o'r UDA, does gynnon ni ddim gobaith canari o gyflawni'r angen ynni presennol (heb son am y tyfiant annochel a ddaw ar ran poblogaeth a galw) trwy ynni adnewyddol, mor fawr yw ein dibyniad ni ar danwydd ffosil erbyn hyn, heb buddsoddiad anferth ar ddatblygiadau enfawr tu hwnt.

Ond rhaglen optimisdaidd oedd hi yn y bon gan yr athro hoffus. Do'n i ddim yn deall y gwyddoniaeth o bell ffordd, ond gawson ni flas o'r her sy'n gwynebu gwyddonwyr y byd. Mae 'na obaith o ddatblygu'r technoleg 'ma er mwyn cynhyrchu trydan 'glan', yn ôl yr arbennigwyr. Ond er mwyn cyflawni'r her enfawr 'ma mewn pryd i lleihau effaith cynhesu byd eang, mae'n rhaid i nifer o wledydd cydweithio a buddsoddi rwan, ac hyd yn oed wedyn does neb yn proffwydo trydan 'ffiwsion' cyn tua 2030.... felly paid â dal dy wynt....

No comments: